| Dyheu am iddynt wneud yn dda, gwirioni wedi un ohonyn nhw ennill, a theimlo'n swp sâl dros y llall a faglodd o fewn modfeddi i'r llinell derfyn.
Ond y teimlad cryfaf oedd balchder am iddyn
nhw ill dau ymdrechu môr galed a chyflawni'r
fath gamp.
Ac yn bendifaddau, yr oedd cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon yn gamp. Bu dilyn taith Ysgol Glanaethwy (a waeth cyfaddef fod gennym ni ffefryn) hyd at y rownd olaf yn brofiad emosiynol dros ben i ni yn Nyffryn Nantlle. O raglen i raglen, wrth iddynt gyflwyno'r fath amrywiaeth o ganeuon, roedd ein hedmygedd o ddawn a
dyfeisgarwch y côr a'u harweinydd yn cynyddu. Erbyn noson y
dyfarniad, a hwythau'n dod yn ail mor agos, er cyfaddef mymryn o siom, yr hyn a deimlai'r rhan fwyaf ohonom yn ein calonnau oedd balchder di-ben-draw, balchder o fod yn 'adnabod' rhai o'r rhain, balchder am fod ei harweinydd, fel amryw o'r aelodau, yn dod o o ardal LLEU a balchder mawr o fod yn perthyn i genedl sy'n medru canu a diddanu fel hyn.
Llwyddodd y corau a bandiau o'r rhan hon o'r wlad i ennill llawryfon yn Llundain cyn heddiw, ond fu erioed gôr na seindorf leol a wnaeth argraff mor ddisglair ag y gwnaeth Ysgol Glanaethwy a hynny ar gunulleidfa mor fawr.
Mae ein dyled yn enfawr i Cefin a Rhian Roberts a holl staff yr ysgol a wnaeth yn bosibl. Llongyfarchiadau iddynt i gyd.
 |