| Rhedodd y marathon mewn 4 awr a 43 munud ac fe fu'n llwyddiannus er gwaetha'r ffaith fod anaf wedi bod yn ei phoeni. Mae'r arian a godwyd yn cael ei rannu rhwng yr Ambiwlans Awyr a Tŷ Gobaith. Roedd y plant wedi llunio baner i'w chefnogi, ac fe welir Miss Griffiths gyda'r faner yn y llun.
 |