'Rydw i wrth fy modd yn gweld swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth yn agor ei drysau i bobl y canolbarth a'r Gorllewin.' Dyna oedd cyfarchiad Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, with annerch y gynulleidfa oedd yn bresennol yn agoriad swyddogol y swyddfeydd newydd ym Mharc y Llyn. Mae'n siwr bod darllenwyr YrAngor wedi dilyn adeiladu'r ddwy swyddfa drawiadol ar gyrion y dref, sef, swyddfa Llywodraeth y Cynulliad a phencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae'n dda gweld bellach bod y ddwy swyddfa wedi agor a'r staff wedi dechrau gweithio yno. Wrth agor adeilad Llywodraeth y Cynulliad fe nododd Rhodri Morgan hefyd bod yna groeso i bobl alw mewn. I'r pwrpas hwn fe neilltuwyd un ardal gyhoeddus, sef, y Bont, lle bydd hi'n bosib cael gwybodaeth am wasanaethau'r Llywodraeth a syrffio'r we ac mae hefyd yn cynnwys eisteddle a chaffi i ymlacio ynddo. Yn ystod yr agoriad fe bwysleisiwyd hefyd yr elfennau gwyrdd i'r adeilad, lle defnyddir tyrbinau gwynt a phanelau solar i gynhyrchu pwer a gwres gan rannu gwresogyddion biomas hefo swyddfa Ceredigion. Mae'n siwr y bydd hi'n cymryd peth amser i'r staff setlo yn yr adeilad ac mae'r cynllun agored yn sicr o brofi'n sialens o ran sŵn ond gobeithio'n fawr y bydd trigolion yr ardal yn manteisio ar y cyfle i ymweld a'r Bont ac i flasu'r croeso gan ei fod yn ddatblygiad pwysig yn nhref Aberystwyth. 'Mae hwn yn llawer mwy na phrosiect i godi adeilad newydd,' ychwanegodd
Rhodri Morgan, `y pwrpas yw dod â Llywodraeth y Cynulliad yn nes at y bobl.' Yn ystod y seremoni agoriadol cafodd Sioned Thomas, cyn-ddisgybl yn Ysgol Penweddig, gyfle i nodi ei hargraffiadau o'r adeilad ac fe gafwyd datganiad hyfryd gan delynorion lleol dan ofal Delyth Evans. Darllenodd Geraint Davies, eto o Ysgol Penweddig, englyn o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones i nodi'r achlysur.
 |