Daeth â thri o'i disgyblion ifanc gyda hi i rannu'r noson. Y tri oedd Elen Evans ac Angharad Gwyn Evans o Bow Street a Llewelyn Jones o Felinfach. Cawsom ddatganiadau amrywiol ganddynt o alawon traddodiadol i glasuron Haydn a Bach; roeddent yn dri dawnus iawn. Rhwng yr unawdau bu Delyth yn rhoi hanes Joseph Parry 'Y Bachgen bach o Ferthyr' gan fod yn ganmlwyddiant ei farwolaeth eleni. Diddorol oedd dilyn gyrfa Joseph Parry o Ferthyr i Bensylvania ac yn ôl i Gymru fel athro cerdd cyntaf y Brifysgol. I gloi y noson cawsom ddatganiad gan y triawd o osodiad Delyth o ddau o weithiau mwyaf adnabyddus Joseph Parry sef 'Myfanwy' ac 'Aberystwyth'. Croesawyd aelodau Cymdeithas Yr Aelwyd i westy Llety'r Parc ar Nos Wener 28 Chwefror i ddathlu Gwyl Dewi, gan y llywydd anrhydeddus, Mary Fitter. Diolchodd Mary i Delynores Mynach am ein cyfarch yn swn y delyn wrth gyrraedd. Rhoddwyd y fendith gan Y Parch Terry Edwards. Wedi gwledda croesawodd Mary ein gwraig wadd sef Mrs Megan Evans. Da oedd ei gweld yn ein mysg wedi iddi gael llawdriniaeth a dymunwyd yn dda iddi ar ei hymweliad â'r ysbyty yr wythnos ganlynol. Cawsom araith ddifyr ac amserol gan Megan. Wedi cael cainc a gair 'roedd rhaid cael cân a chroesawyd Nia Jones Capel Dewi. Swynwyd yr aelodau gan Nia a'i halawon gwerin cyfarwydd ac ambell un mwy dieithr. Wrth ddiolch dywedodd Hefin Jones ei bod yn noson arbennig iawn a gorffennwyd trwy gyd-ganu Hen Wlad fy Nhadau. Ar Nos Wener 7 Mawrth croesawodd Mrs Delyth Evans ei chymydog bore oes ym Mhontarfynach, ac erbyn heddiw yn gymydog agos iddi yn Aberystwyth, sef yr artist enwog, Mary Lloyd Jones. Diddorol iawn oedd dilyn gyrfa Mary drwy sleidiau o'i gwaith, a gweld sut y datblygodd ei gwaith o'r dyfrlliwiau cynnar i'r lluniau a'r lliwiau dramatig o'i hoff ardaloedd. Agorwyd llygaid y gynulleidfa wrth glywed esboniad a chefndir y lluniau. Diolchodd Delyth yn gynnes i Mary am noson liwgar a diddorol. Ar nos Wener 14 Mawrth daeth criw o fyfyrwyr o Aelwyd Pantycelyn i'n diddori. Wrth eu cyflwyno dywedodd cadeirydd y noson, Mrs Delyth Fletcher pa mor falch oedd o gael croesawu cymaint o bobl ifanc a oedd mor barod i droi allan i ddiddori cymdeithasau fel yr Aelwyd. Cafwyd noson ddiddorol dros ben yn gwrando ar y côr a'r partion a'r deuawdau a'r unawdau ac yr oedd graen ar bob un eitem. Wrth ddiolch i'r myfyrwyr llongyfarchodd Mrs Fletcher Gôr Pantycelyn ar gyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth Côr Cymru a dymuno yn dda iddynt pan fyddant yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Noson ddifyr iawn i gloi y tymor.
 |