Cynhaliwyd piced o 9 tan 5 a oedd yn atal traffig i mewn i'r campws.
Mae cyfres o brotestiadau gan y myfyrwyr yn dangos pa mor anniddig y maent. "Mae ein neges yn glir" meddant. "Mae'n rhaid i'r brifysgol yma yn Aberystwyth wneud safiad dros y Gymraeg gan gefnogi'r alwad am Goleg Ffederal Cymraeg. Dyma'r unig ateb a fyddai'n sicrhau strwythur i'r iaith Gymraeg. Ynghyd â hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ymrwymo i'r Gymraeg a buddsoddi yn y Gymraeg gyda chyllid sylweddol. Ar hyn o bryd, mae llywodraeth Cymru fel petai hi'n dweud un peth ac yn gwneud y llall.
Mae myfyrwyr UMCA yn gwybod fod yna gyfrifoldeb arnyn nhw i leisio fod yna anghyfiawnderau. Mae myfyrwyr sy'n dewis gwneud eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg (hynny ydy, y rheiny sy'n cael y dewis o gwbl), yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd.
Ni fydd yna daw nes y bydd y sefydliadau dan sylw yn cydnabod maint yr anghyfiawnder ac yn cefnogi'r alwad am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae myfyrwyr wedi eu cynddeiriogi. Gobeithio yn fawr y bydd myfyrwyr o golegau eraill yn ennill hyder o'n hymdrechion ni ac y bydd yr effaith fel caseg eira.
'Dydy pobl ddim yn protestio am ddim rheswm. Os ydy iaith leiafrifol yn cael ei thrin fel baw mae pobl yn mynd i ddechrau lleisio ein anhapusrwydd."
Bydd y myfyrwyr yn parhau â'u protest y mis nesaf trwy gynnal rali yng Nghaerdydd. Byddant yn gwersylla tu allan i'r Cynulliad ar noson 9 Mawrth ac yn dechrau'r rali ger yr Eglwys Norwyaidd am 10.30 y bore canlyno!.
Gofynnwyd i awdurdodau'r Coleg am ymateb i brotest y myfyrwyr a chafwyd y datganiad canlynol :-
Y mae Prifysgol Cymru ers rhai blynyddoedd wedi bod yn creu cynllun a fyddai, o'i wireddu, yn cynyddu'n ddirfawr yr addysg drwy'r Gymraeg a fyddai ar gael i'w myfyrwyr. A bu Aberystwyth yn flaenllaw (a) yn cyfrannu at y gwaith hwnnw, a (b) yn ceisio darbwyllo'r Cyngor Ariannu a Llywodraeth y Cynulliad i gyllido'r cynllun. Bellach, y mae'r Cyngor cyllido yn gweld ei werth. Barnaf y bydd y Gweinidog Addysg yn gweld ei werth cyn bo hir.
Y mae'n gynllun manwl, amlweddog, uchelgeisiol. Ynddo sonnir am dri pheth:
(1) adnoddau dysgu (o ran paratoi cyrsiau, llyfrau, gwefannau, &c.); (2) adnoddau dynol (o ran hyfforddi darpar-ddarlithwyr a thiwtoriaid); (3) denu darpar-fyfyrwyr i gymryd cyrsiau Cymraeg.
Ar y pwynt cyntaf, noder mai ychydig lawn iawn o ddeunydd ysgolheigaidd sydd ar gael ac eithrio ym maes y Gymraeg ei hun a hanes Cymru. Ar yr ail, noder bod prinder affwysol o academyddion sy'n Gymry Cymraeg, hyd yn oed yn y pynciau hynny sy'n ymwneud â Chymru ei hun. Ar y trydydd pwynt, da fyddai gweld rhagor o fyfyrwyr yn ymrwymo i'r cyrsiau sydd gennym eisoes drwy'r Gymraeg. Yn Aberystwyth, er enghraifft, y mae dros ddeg a phedwar ugain o fodiwlau drwy'r Gymraeg. Niferoedd bychan iawn o fyfyrwyr sydd yn eu cymryd.
Rhaid ceisio caei y pethau hyn oll ynghyd, adnoddau, addysgwyr ac efrydwyr. Nid oes neb yn mynd i sefydlu Coleg Cymraeg a gobeithio'r gorau. Y mae'r ymdrech fawr i geisio arian i wireddu cynllun Prifysgol Cymru yn mynd rhagddi beunydd.