BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Cymru ar y WePorth i "Gymru ar y We"
Tachwedd 2003
Cynigir gwasanaeth newydd gan Gymru ar y We, sef darparu porth gwbl ddwyieithog sy'n rhoi mynediad i ddeunydd o ddiddordeb Cymreig ar y We Fyd Eang ar www.cymruarywe.org

Mae'n gyfle gwych i chwilio am wefannau defnyddiol a diddorol trwy gyfrwng y Gymraeg heb drafferthu â'r peiriannau chwilio amhersonol ac anniddorol. Gwybodaeth ddibynadwy yn unig a gynigir gan Gymru ar y We yn ymdrin â Chymru a phob agwedd o'r bywyd Cymreig. Er nad oes gwefannau masnachol yn bodoli ynddi, mae'r amrywiol wybodaeth yn y porth yn sicrhau rhywbeth at ddant pawb.

Hefyd, mae'r porth o ddiddordeb arbennig i ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd wrth iddynt wneud ymchwil annibynnol i feysydd cwricwlaidd, ac i athrawon wrth iddynt chwilio am adnoddau er mwyn cryfhau deunydd ar gyfer eu gwersi.

Lleolir Gymru ar y We yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a chyllidir ef gan Gymru Ar-lein o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn ôl Rheolwr Prosiect, Aled Betts, "Os hoffech i wefan, boed yn un hanesyddol am eich ardal neu un sydd yn darparu presenoldeb i'ch sefydliad neu fudiad, gael ei rhestru o fewn y porth, yna dewch draw i ymweld â Chymru ar y We a llenwi'r ffurflen Awgrymwch Adnodd neu gyrrwch ebost at cymruarywe@llgc.org.uk gyda manylion yr adnodd. Byddwn yn edrych ymlaen at dderbyn y wybodaeth".


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy