'There's health in the air, and a friendly sun,' medde'r hen bosteri yna a ryddhawyd gan y Rheilffyrdd i hybu delwedd Aberystwyth fel hafan arfordirol yn y 1930au.
Efallai bod y wynebau Shirley Temple a'u hedrychiad iachus, y siorts Bermuda a'r lliwiau technicolour yn ymddangos fel arteffacts o'r gorffennol bellach.
Wedi'r cyfan, mae'r hen linellau trên wedi darfod ers oesoedd, a dim and Birmingham yn weddill. Ond roedd darlunwyr y posteri yn gwbwl gywir: mae yna rywbeth yn yr aer yn Aberystwyth, rhywbeth sy'n fy nenu i a'm ffrindiau yn ôl i'r dref, waeth pa mor bell yr ydym yn crwydro ohoni.
Sut le yw Aber o'r tu allan, felly? A gafodd twristiaid y Tridegau brofiad o haul cyfeillgar ac aer yn llawn maeth, fel ag addawyd iddynt gan y posteri?
Mi gefais olygfa o'r dref o'r tu allan yn blentyn 5 mlwydd oed, pan symudodd fy nheulu i'r Gorllewin o ganol dyffryn Ogwr.
Proses ryfedd oedd cyrraedd Aber heb stitch o Gymraeg arnai, yn greadur mewndirol (heblaw am rai tripiau achlysurol i brom Penarth). Dw i ddim yn cofio'n union pryd ddechreuodd y ffiniau doddi a phryd ddechreuais i deimlo fel trigolyn y dref yn hytrach nag ymwelwr.
Roedd y metamorffosis yn un esmwyth, beth bynnag. Yn sicr, roedd yr Ysgol Gymraeg yn ddylanwad cryf: dw i'n dal i gofio'r tro cyntaf i mi ganu ar lwyfan Llangollen, yn un o'r wynebau brwd mewn ffrog goch dan arweiniad cadarn yr anhygoel Margaret Thomas.
Os oes rhywbeth yn aer Aber, mae yna rywbeth yn y môr hefyd. Bywyd ysbrydolus yw bywyd ger y lli. Mae yna rywbeth am gromlin y bae - wedi'i chwmpasu efo'r tai amryliw, ac Enlli yn sbec dawchlyd ar y gorwel - sydd bob tro yn ysgogi'r awydd ynddof fi i sgwennu cân.
Efallai na wnewch chi chwilio'r hen dyrrau cerrig sy'n dal clychau arallfydol y Cantre', and mae rhyw ddirgelwch yn y tonnau llwydlas sy'n ddylanwad cryf ar fy ngherddoriaeth.
Efallai mai canlyniad y blynyddoedd cynnar ydyw (yn edrych allan i ganol y dŵr ar gôl fy nhad), and bob tro dw i eisie metaffor i gyfleu rhywbeth dyrys, mi af i ganol y dŵr i'w mofyn!
Mae yna rywbeth am y môr yn Aberystwyth sy'n anhreiddiadwy, ac eto rydyn ni'n dychwelyd bob tro. Mae i'w ganfod rhywle ym rnhob un o'm caneuon.
Mae Georgia yn astudio Saesneg yng ngholeg Newnham, Caergrawnt ac yn cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth sy'n cael ei chwarae'n aml ar BBC Radio Cymru gan Lisa Gwilym. Llynedd, cafodd ei dewis gan banel i ymddangos ar lwyfan y BBC yn Glastonbury. Mae hi wedi recordio sesiwn yn Maida Vale.