I ddathlu ei hugeinfed pen blwydd bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cynhadledd ryngwladol bwysig ar y testun 'Cerrig Milltir' rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf.
Estynnir croeso cynnes iawn i'r achlysur pwysig hwn i holl ddarllenwyr Yr Angor. Gobeithio y rhowch gefnogaeth i waith y Ganolfan.
Bydd un ar ddeg o ysgolheigion profiadol ac ifanc, ynghyd â chant o siaradwyr eraill o bob rhan o'r byd, yn trafod trobwyntiau arwyddocaol yn natblygiad archaeoleg, hanes, ieithoedd, llenyddiaethau a hunaniaeth genedlaethol Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill. Ymhlith y prif siaradwyr bydd nifer o arbenigwyr o fri fel Barry Cunliffe yr archaeolegydd disglair, Jane Aaron sy'n arbenigo ar hanes merched a Padraig O'Riain, awdurdod ar hanes y saint.
Bydd y Gynhadledd hefyd yn gyfle i bawb ddysgu mwy am brosiectau cyfredol y Ganolfan. Eisoes cwblhawyd nifer o brosiectau arloesol a chyffrous, yn eu plith saith cyfrol ar 'Feirdd y Tywysogion', un ar ddeg cyfrol ar 'Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg', a chwe chyfrol a chwe CD-ROM ar 'Ddiwylliant Gweledol Cymru'.
Ar hyn o bryd y mae tîmau o ymchwilwyr, dan arweiniad Dr Ann Parry Owen, Dr John T. Koch a Dr Mary-Ann Constantine yn gweithio ar brosiectau'n ymwneud â Beirdd yr Uchelwyr, a'r Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Geltaidd ac ag Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru. Gwelir ffrwyth llafur y prosiectau hyn mewn print yn y dyfodol agos.
Fel y gwelwch, felly, y mae'r Ganolfan, dan arweiniad ei Chyfarwyddwr, yr Athro Geraint H. Jenkins, yn sefydliad ymchwil o statws rhyngwladol ac yn fwrlwm o weithgarwch cyffrous. Meddai'r Athro Jenkins: "Dyma'r digwyddiad pwysicaf ym maes astudiaethau Cymreig a Cheltaidd eleni, ac edrychwn ymlaen yn fawr at ein dathliadau."
Gofynnir i ddarllenwyr Yr Angor gefnogi gwaith y Ganolfan drwy fynychu'r Gynhadledd Cerrig Milltir. Cewch groeso cynnes iawn.
Cynhelir y Gynhadledd ar gampws Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar Benglais. Ceir manylion pellach am raglen y Gynhadledd ar wefan y Ganolfan. Gellwch hefyd ofyn am fwy o fanylion drwy gysylltu â Vera Bowen, Trefnydd y Gynhadledd. Ffon: 01970 626717 neu e-bost: vera.bowen@cymru.ac.uk