Mae hi'n pum mlynedd ers i'r Morlan agor ei drysau ac i nodi hyn cynhelir gwyl "Dathlu'r Pump" dros benwythnos 23-¬25 Ebrill. Yn y cyfnod cyn agor y Morlan, bu trafod mawr ar y math o ganolfan yr oedd ei angen ar Aberystwyth. Ystyriwyd ei disgrifio fel canolfan cyfiawnder a heddwch neu ganolfan ieuenctid ond yn y diwedd cytunwyd ar ganolfan ffydd a diwylliant gyda'r nôd o weithredu fel pont rhwng yr eglwys a'r gymdeithas o'i chwmpas gan hybu bywyd cymunedol - yn ddiwylliannol ac ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Dros y pum mlynedd mae Morlan wedi datblygu i fod yn ganolfan fywiog a phrysur sy'n cael ei defnyddio gan drawstoriad o fudiadau a grwpiau - yn lleol ac yn genedlaethol - ar gyfer amrediad eang o ddigwyddiadau, gyda'r Morlan ei hun hefyd yn cynnal rhaglen o weithgareddau.
 |