Cafwyd noson ddifyr iawn ar y 15fed o
fis Mawrth pan ddaeth aelodau Merched y Wawr, Llanfarian i ymweld â safle Mentro Lluest yn Llanbadarn Fawr. Fe'u croesawyd yn yr ystafell gynadledda gan David Greaney, un o Ymddiriedolwyr yr Elusen, a siaradodd ef am hanes yr elusen ac am ei hamcanion. Wedyn aeth y grŵp i'r ystafell hyfforddi i wrando cyflwyniad gan Anna Bellingham, Cymraes leol sy'n un o hyfforddwyr yr Elusen.
Yn y cyfamser fe daenodd David fenyn
ar y darnau o fara brith a oedd yn cael eu torri gan Penni Joy, Rheolwraig Mentro Lluest, ar gyfer y te blasus a fyddai'n dilyn y cyflwyniad gan Anna. Yr oedd rhai o'r Merched wedi rhoi cynnig ar gystadleuaeth i restru enwau Cymreig ar blanhigion gwyllt. Canmolwyd y cynigion i gyd gan David (a oedd yn beirniadu) a chafwyd trafodaeth ddiddorol, ar ôl y te, ar rai o'r enwau. Yr oedd hi'n amlwg bod blodau menyn yn dwyn atgofion melys i'r Merched!
A wyddoch chi beth yw Chwys Arthur tybed? Neu Wiliam Coch? Beth am 'codwarth' a 'cacamwnci'?
Derbyniodd Penni, ar ran Mentro Lluest, rodd hael gan y Merched a diolchodd hi iddynt am y rhodd annisgwyl ac am ddangos cymaint o ddiddordeb yng ngwaith yr elusen.
chwys Arthur - S. meadow-sweet
Wiliam Coch* -S. scarlet pimpernel
codwarth - S. deadly nightshade
cacamwnci - S. burdock
* Enw a arferir and mewn ambell ardal fach efallai.
Syndod a phleser o'r mwyaf oedd derbyn gwahoddiad gan Siôn Glyn o Glwb Ffermwyr Ifainc Talybont i fynd i weld pantomeim yn Neuadd Talybont ar y nos Wener ddilynol, sef yr 17eg. Yr oedd aelodau CFFI Talybont wedi casglu dros ddwy fil o bunnoedd wrth ganu carolau adeg y Nadolig ac ar noson y panto fe gyflwynasant sieciau gwerth £740 i gynrychiolwyr tair elusen: Macmillan Cancer Relief, Cartref Tregerddan, a Mentro Lluest. David Greaney dderbyniodd y siec ar ran yr olaf.
"Dafydd ap Gwilym a'r busnes cariad 'ma" oedd y panto lliwgar a bywiog a lwyfannwyd gan y Clwb, panto llawn hwyl a miri a fyddai at ddant y bardd ei hun pe bai hwnnw'n dal i rodio yn y tir heddiw.
Dilynwyd y perfformiad hwn gan
"Jac a'r ffa GM", panto doniol gan aelodau CFFI Llanddeiniol. Cafodd y tri chant a hanner a oedd yn y gynulleidfa y noson honno "lot o sbort".
Mae staff a myfyrwyr Mentro Lluest yn anfon eu cyfarchion at aelodau Mercher y Wawr, Llanfarian ac at ffermwyr ifainc Talybont ac yn diolch iddynt oll am eu cyfeillgarwch a'u caredigrwydd.
Bydd Diwrnod Agored
Mentro Lluest ar y 6ed
o Fai am 10 o'r gloch y
bore hyd at 4 y prynhawn.
Galwch heibio!