Mae gen i gyfarfod heddiw yn y Morlan - y ganolfan newydd yng nghanol y dref ar Morfa Mawr. Un fantais fawr yw na fydd angen chwilio am hydoedd am le parcio gan fod digon i'w cael yno - osgoi'r pen tost hynny beth bynnag. Yr wythnos ddiwethaf doedd e ddim yn edrych yn lle deniadol o gwbl gan fod cymaint o lanast yr adeiladwyr tu allan ond erbyn heddiw mae'n ymddangos yn drawiadol iawn gyda'r arwydd mawr a logo'r Morlan, a'r ffenestri eang yn fy ngwahodd i mewn. Wrth fynd trwy'r brif fynedfa rwy'n sylweddoli fod y ffenestri yn gwneud eu gwaith yn gampus ac yn llenwi'r cyntedd â golau - y dewis nawr yw dilyn y coridor llydan ymlaen neu droi i'r chwith i weld beth sydd gan y ffordd honno i'w gynnig. Troi i'r chwith a dod ar draws y lle pwysicaf - y bar coffi! Cyfle nawr i ymlacio gyda phaned o de neu goffi neu rywbeth oerach os yw'n ddiwrnod braf fel heddiw. Y glanhawyr yma yn clirio ar ôl y clwb ieuenctid a fu'n cyfarfod yma neithiwr. Cyn mynd i'r ystafell gyfarfod taro pen mewn i weld y brif neuadd. Hon yn y broses o gael ei hailosod ar ôl y sioe neithiwr gyda 200 o seddi yn cael eu gwthio'n ddidrafferth o'r neilltu i adael gofod cyfangwbl gwag er mwyn i fyfyrwyr adran ddrama'r Brifysgol gael lle i ymarfer. Rhai o'r rheiny eisioes wedi cyraedd - un ar ben ysgol yn newid lleoliadau'r goleuadau uwchben a dau arall yn sirchau fod yr offer sain parhaol yn gweithio fel y dylai. Gan ei bod yn ddiwrnod braf rwy'n ofni na fydd y goleuadau trydan yn cael yr effaith fyddai'r myfyrwyr yn ei ddymuno ond wrth gerdded drwy'r neuadd rwy'n sylwi ar y llenni pwrpasol all ddisgyn dros bob ffenest er mwyn gwneud y lle yn dywyll fel bol buwch a sicrhau y gellid creu pob math o awyrgylch dramatig yma. Allai ddim peidio a rhoi fy nhrwyn drwy un o'r drysau sydd yn arwain oddi ar y neuadd - stafelloedd newid ynghyd â thoiledau a chawodydd sydd yma - cymharu'n ffafriol â'r West End neu Ganolfan y Mileniwm ddwedwn i! Rhaid i mi atgoffa fy hun mai yma i weithio ydw i, ac wrth gerdded yn ôl am y stafell gyfarfod sydd yn dal deg ohonom yn gyfforddus rwy'n pasio'r lolfa lle mae grŵp trafod yn cwrdd - canlyniad yr etholiad diweddar yw'r pwnc heddiw o'r hyn allai glywed. Cyn cychwyn gweithio mae'n siŵr fod amser am un ymweliad arall â'r bar coffi! Erthygl gan Deian Creunant
 |