Dyma deitl arddangosfa ddiddorol o gerfluniau John Meirion Morris yn y Morlan rhwng 12 a 24 Mehefin. Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan yr hanesydd a beirniad celf, Peter Lord ar ddydd Llun, 12 Mehefin. Nos Wener, 23 Mehefin, cynhaliwyd darlith gan John Meirion Morris ar y thema "Y Deyrnas Fewnol" ac fe ddilynwyd gan "Hwyron", ymateb nifer o feirdd lleol i'r arddangosfa gyda chymorth cerddoriaeth. Ddydd Sadwrn, 24 Mehefin, cynhaliwyd cynhadledd ar y thema "Y Credu a Creu" gyda'r Parchedig Patrick Thomas, Rhiannon Evans (Tregaron), Euros Lewis a Meg Elis yn cymryd rhan.
Ganwyd John Meirion Morris yn Llanuwchllyn ac ar ôl astudio celf yn Lerpwl apwyntiwyd ef yn bennaeth yr adran gelf yn Ysgol Gyfun Llanidloes yn 1961. O 1964 ymlaen bu'n ddarlithydd yn Leamington Spa, Prifysgol Kumasi, Ghana, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Pan yn Aberystwyth bu'n cyfarwyddo dramau a chynllunio setiau ar gyfer y theatr a'r Adran Ddrama. Efe oedd un o sylfaenwyr a chadeirydd cyntaf GWELED, cymdeithas ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Yn 1985 yr oedd yn gerflunydd amser llawn ac yn byw yn Llanuwchllyn. Dyma'r cyfnod pan oedd yn ymgolli'n llwyr yn yr ysbrydol, trosiadol a mythau mewn cerfluniaeth.
Cynlluniodd bortreadau o bennau allan o efydd, llawer ohonynt yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1988 apwyntiwyd ef yn bennaeth yr Adran Gelf yng Ngholeg Normal, Bangor a gorffennodd ei ymchwil ar gelf La Tene yn 1993. Bu'n arddangos ei waith yn
Llundain, Machynlleth ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Cyhoeddwyd ei lyfr Y Weledigaeth Geltaidd (Y Lolfa) yn 2002.
Yn yr arddangosfa gwelir 31 o gerfluniau gan ddangos deunyddiau amrywiol iawn. Efydd, efydd a haearn, efydd a llech, efydd ar goed, aliwminiwm, coed haearn, cement fondue yw'r defnyddiau crai.
Cred John Meirion Morris "mai yn fewnol i lawr yn ddwfn yn y meddwl, neu'r isymwybod, mae tarddiad celfyddyd a chrefydd ... yn fewnol, yn y meddwl, neu yn yr isymwybod, y daw'r delweddau mwyaf creadigol a chrefyddol i mi."
Dyma fel mae'n disgrifio y cerflun o efydd cyntaf yn yr arddangosfa, sef "Lieu". "... fe welir presenoldeb mam (sydd hefyd yn goeden). Gwelir bod y pwyslais ar brofiad o farwolaeth ac aileni "Lieu" (gweler symbol o aderyn) ym mreichiau'r fam. Noder, y modd y mae marwolaeth "Lieu" yn cael ei gynrychioli gan siapiau disgynnol a symbolaidd, siapiau o ddafnau o waed (neu gig wedi pydru) sydd ar ddisgyn i lawr islaw breichiau'r fam/goeden.
Hefyd, yn y rhan uchaf o'r cerflun, gwelir siapiau dyrchafol symbolaidd o aderyn bychan a siapiau fflamau, y cyfan yn awgrymu proses o 'drawsnewid'.... ffordd fewnol ac ysbrydol o feddwl sydd yma ar ffurf siapau symbolaidd a throsiadol a'u bod yn tarddu o weld llewyrch o ddelwedd a phresenoldeb iddi yn y meddwl, neu'r 'isymwybod'.
Byddai diwinyddion y ganrif ddiwethaf wedi galw hyn oll yn ysbrydoliaeth. Pan fo cerflunydd yn sarnio darn o brydferthwch nas gwelwyd o'r blaen, ychwanegir at allu arferol gan ysbrydoliaeth Duw.
Erthygl gan Alun Eirug Davies