GLAW, GLAW A GLAW (ac ychydig o gesair) yw `tywydd y ffair' i drigolion cylch Yr Angor.
Ond eleni, roedd un ffair dan do yng ngwres hyfryd Neuadd Goffa Penparcau.
A Bore Coffi'r papur hwn oedd y ffair honno a ddenodd nifer dda iawn o bobl y bore oer, gwlyb a gwyntog hwnnw, sef bore'r 7fed o Dachwedd.
Ac roedd digon o goffi a the poeth a pop ar gyfer pawb a alwodd heibio - ffyddloniaid y papur bro, o bob ardal, ochr yn ochr a thrigolion brwd Penparcau a'u plant.
Croesawodd y C),nghorydd Rob Gorman bawb.
Cyfeiriodd at bwysigrwydd y digwyddiad yn y gymuned: roedd y Bore Coffi yn gyfle i hybu'r Gymraeg a diwylliant y Cymry ym Mhenparcau, yn enwedig ymhlith yr ifainc.
Anogodd ef drigolion yr ardal i gefnogi'r papur ac i ystyried arwyddocad enw'r papur: roedd angor yn ein hatgoffa o'n bro Ian môr a'n perthynas ni a hi a phwysigrwydd diogelu'n hetifeddiaeth ieithyddol, ddiwylliannol a diwydiannol.
Canodd côr Ysgol Llwyn yr Eos bedair cân hyfryd o flaen tyrfa gref: `Sing for joy', `Autumn Days', `Glas, glas blaned, siglo drwy'r bydysawd mawr', a `We all stand together'. Roedd digon o hwyl i'r plant pan nad oeddynt yn canu - twba lwcus yn llawn anrhegion a danteithion, lliwio a darlunio, ac arddangosfa fechan o ffosilau, crisialau a phethau gwyddonol.
Diolchodd Megan Jones, ein Cadeirydd, i Mr Brian Evans, Prifathro Ysgol Llwyn yr Eos, a'i staff a'r plant am ddod i'r Neuadd Goffa: roedd yr adloniant wedi bod yn rhagorol.
Diolchodd hi hefyd i'r holl bobl a oedd wedi pobi cacennau i'w gwerthu neu a oedd wedi cyfrannu nwyddau a gwobrau raffl, ac i'r caredigion hynny a oedd wedi rhoi rhoddion hael tuag at goffrau'r papur: mawr oedd dyled y papur i bob un ohonynt.
Nod y Bore Coffi oedd tynnu sylw'r gymuned leol at y papur bro ac at sut i gael budd ohono er lles y gymuned.
Roedd angen sicrhau dyfodol llewyrchus i'r papur ac ymhlith y pethau y byddai'n rhaid eu gwneud fyddai cael cyfraniadau gan blant ac ieuenctid a rhoi mwy o sylw i'r ardaloedd y tu allan i'r dref.
Comins Coch yw'r ardal y bydd `ffair fach' Yr Angor yn ymweld a hi nesaf (a bydd y manylion am y Bore Coffi hwnnw yn ymddangos yn rhifyn Chwefror).
Cofiwch mai chi, drigolion y fro, biau'r papur. Cefnogwch Yr Angor!