Haf 2007 Symud i fyw i Atlanta, Georgia. Ar yr ail ddydd yma prynu sticer i'r car `Obama `08'.
Droeon cymdogion, cydweithwyr a dieithriaid llwyr yn decharu sgwrs `Rydw i o blaid Obama hefyd.'
Ionawr 2008. Sefyll yn yr oerfel y tu
allan i Ebenezer, yr eglwys lle bu Martin Luther King Jr. yn weinidog. Doedd dim lle yn y capel, gwrando ar Barack Obama yn pregethu.
Ei destun oedd chwalu waliau Jericho, a'n herio fod pawb wedi gweiddi gyda'i gilydd i chwalu'r muriau. Sefyll y tu allan a theimlo ein bod mewn man sanctaidd, ar drothwy cam arall, pwysig, hanesyddol.
Chwefror 2008. Allan yn curo ar ddrysau yn rhan orllweinol Atlanta. Ardal dlawd lie mae nifer o bobl ddu yn byw. Annog y bobl i bleidleisio yn y `Primaries' i ethol Obama. Un dyn yn ein gwahodd i mewn; roedd o yn gorfod defnyddio ocsigen er mwyn gallu anadlu. Fe ddangosodd ddwy fedal calon borffor i ni (purple hearts) a enillodd am ei ddewrder yn y rhyfel yn Korea.. `Rydw i wedi meddwl droeon
ers hynny pam wnes i roi fy ysgyfaint i'r wlad yma, sydd wedi ein trin ni, pobl ddu, mor wael. Mae Gael pobl wyn yn curo ar fy nrws yn fy annog i bleidleisio dyn du iswydd uchaf y wlad yn rhoi gobaith i mi.'
Mai 2008 Alex, un o fyddin gweithwyr Obama, yn dod i fyw yn ein ty am dri mis. Miloedd yn tyfu yn filiynnau, yn chwarae eu rhan yn ô1 eu gallu.
Haf 2008 Obama yn cael ei ethol I gynrychioli y Blaid Ddemocrataidd. Rhyw deimlad o angrhediniaeth ar
dro - efalli y gwnaiff y wlad ei ethol yn Arlywydd. Chwa o obaith ar droed.
Hydref 2008. Curo ar ddrysau eto, y tro yma i annog pobl i gofrestru i bleidleisio (mae y sustem yma yn gymhleth iawn!). Buom allan droeon; un pnawn yn cerdded y strydoedd yn Ward 4, calon y mudiad Hawliau Sifil. Cofrestru pobl digartref gan fwyaf; doedden nhw ddim wedi sylweddoli fod ganddynt yr hawl i bleidleisio. Y pnawn olaf cyn cau y rhestr o bleidleiswyr, ymuno ag eraill mewn gorsaf - a chofrestru dros 130 mewn dwy awr. Mae pob pleidlais yn bwysig.
Siarad, breuddwydio, glawadau ffon, curo ar ddrysau eto - `Gallwn, wir, fe allwn' Yes we can. Doedd dim arall ar y teledu yma, pob math o fanylion dibwys yn dod yn newyddion. Ofni y basa tactegau budr yn gweithio - and y tro yma credu o waelod calon fod mwyafrif y bobl yma yn barod am newid mawr. Rhyfeddu wrth weld pobl yn sefyll am oriau yn disgwyl i bleidleisio....
Tachwedd 4. Deffro am 5 y bore ac isio bod yn Americanes er mwyn gallu pleidleisio ... Ar ô1 diwrnod yn yr ysgol, allan unwaith eto i un o'r miloedd o swyddfeydd Obama dros y wlad i gynnig help. `Ffoniwch y bobl ar y rhestr yma hyd at yr awr olaf. Wedyn aros.
'Fe gerddodd Martin Luther King fel y gallai Obama redeg er mwyn i ni gael hedfan.'
'Yes we did'.