Ffurfiwyd Côr aelwyd Ger-y-lli tua naw mis yn ôl. Pobl ifanc o dan bump ar hugain yw aelodau'r côr, yn byw yn Aberystwyth a'r cyffiniau, rhai yn ddisgyblion ysgol, rhai yn fyfyrwyr, rhai yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol a swyddfeydd yn y dre. Yr arweinydd yw Gregory Roberts, yr unawdydd, a fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Medi, sydd i'w chynnal yn y Galeri, Caernarfon. Y mae'r côr yn cynnwys parti llefaru, ensemble lleisiol, unawdwyr a pharti cerdd dant. Eleni oedd y tro cyntaf i Aelwyd Ger-y-lli gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac wedi llwyddiant mawr yn Eisteddfod y Sir fis Mawrth, roedd aelodau'r côr yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael dangos eu doniau ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru. Cychwynnodd rhagbrofion y parti llefaru cyn wyth y bore, a bu cystadlu cyson drwy'r dydd tan i'r Côr SATB ddod oddi ar y llwyfan tua wyth y nos. Perfformiwyd ar y llwyfan o flaen cynulleidfa'r Theatr Gerdd bron ym mhob cystadleuaeth a geisiwyd. Yn fuddugol roedd yr ensemble lleisiol 15-19, a Gregory Roberts, yr arweinydd, yn yr unawd alaw werin 19-25; yn ail oedd y parti cerdd dant a'r ensemble lleisiol 19-25; yn drydydd oedd y parti llefaru 19-25. Tra bod cyfle i eraill orffwys ac ymlacio wedi'r holl waith caled, nid oedd seibiant ar y gorwel eto i'r côr. Rhaid oedd ymarfer canu carolau Nadolig ar gyfer perfformio ar Noson Lawen a oedd yn cael ei recordio ddiwedd mis Mehefin ac, wrth cwrs, rhaid oedd dysgu darnau newydd ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddechrau mis Gorffennaf. Mwynhawyd y misoedd diwethaf yn fawr iawn ac y mae'r aelodau yn edrych ymlaen at yr her sydd i ddod. Dymuniadau gorau i Greg. Ac wedyn? Gwyliau gobeithio.
 |