 |  |  | A oes heddwch? Gŵyl Heddwch Cymru Gyfan Ebrill 2004 Bore Sadwrn, 20 Mawrth, daeth Aberystwyth yn ganolbwynt brotestio yng Nghymru o blaid heddwch ac i nodi blwyddyn union ers cychwyn y rhyfel anghyfreithion yn Irac. |  |  |
 | Ar yr un diwrnod roedd miloedd ar filoedd yn gorymdeithio o blaid heddwch drwy'r byd ac yn erbyn rhyfel Bush a Blair.
Roedd protestwyr Cymru wedi ymgynnull ar Boulevard St. Brieuc yn Aberystwyth er mwyn gorymdeithio drwy'r dref. Arweiniwyd yr orymdaith gan ddrymio afieithus Samba Gales a chanu ysbrydoledig Côr Cochion Caerdydd ar hyd Heol y Bont, y Stryd Fawr, Rhodfa'r Gogledd, a Heol Portland ac at y Castell. Yno fe gafwyd nifer o areithiau effeithiol gan Jill Evans ASE sydd fel gwleidydd wedi gweithio yn ddygn o blaid heddwch a chyfiawnder yn y Senedd Ewropeaidd, Delyn Harris o'r grŵp Trident Ploughshares sy'n ymgyrchu'n uniongyrchol yn erbyn offer rhyfel, a Tim Richards arbenigwr ar gyfraith rhyfel o Gaerdydd.
Yn y prynhawn daeth nifer ynghyd yn Neuadd yr Hen Goleg i drafodaeth ar faterion yn ymwneud â heddwch a chyfiawnder. Aelodau'r panel trafod oedd Jill Evans, Corin Redgrave, Elanor White (Amnest Cymru) ac Azmet Begg. Efallai taw Azmet Begg oedd siaradwr mwyaf trawiadol y prynhawn wrth iddo adrodd sut y mae wedi bod yn ceisio cael cyfiawnder i'w fab Moazzam sydd yn gaeth yng ngharchar Bae Guantanamo y tu hwnt i reolaeth unrhyw gyfraith ac awdurdod rhyngwladol. Yn ddiweddar cafodd rhai eu rhyddhau o'r carchar hwnnw ac adrodd hanesion am driniaeth greulon a chas oddi ar law swyddogion carchar byddin yr Unol Daleithiau.
Efallai i lawer roedd gweld pobol yn gorymdeithio drwy'r dref i ofyn cwestiynau o'r fath yn ymddangos yn ddiwerth iawn, yn enwedig ar y fath ddiwrnod gwyntog ym mis Mawrth. Ond dwi'n ymfalchio fod pobol yn fodlon meddwl a gweithredu am bethau felly er bod rhaid iddyn nhw hefyd, fel pawb arall, feddwl am wneud y siopa a'r glanhau, am fynd â'r plant i'r pêl-droed a'r dawnsio bale.
 |  |  |  |
| 
|