"Bore 'ma fe es i am dro o gwmpas Woolworths. Nid dyna oedd y rheswm imi fynd i r dref - siopa man anrhegion Nadolig oeddwn i, ac wrth gamu allan o siop Waterstones tynnodd posteri anferth ffenestri Woolwrths yn union ar draws y ffordd fy sylw.
Fel arfer, rwy'n ddall i ffenestri Woolworths, ac i'w phresenoldeb ar Stryd Fawr, Aberystwyth. Mae'n perthyn i gyfnod fy mhlentyndod; cofiaf unwaith imi golli Mam ymhlith y cownteri yno.
Ers hynny, rhyw siopa ambell i dro am bethau fel batris, bylbs golau, a theclynnau cegin a wneuthum, a'm hymweliadau yn prinhau wrth i'r siopau bwyd ddechrau gwerthu'r manion hyn.
Ond heddiw, gyda thranc y wasgfa ariannol ar fin cau cangen Aberystwyth, dyma benderfynu mynd ar daith deyrnged.
Yn syth wrth imi gamu drwy'r drysau gwahoddus awtomataidd, dyma sylweddoli pam nad oeddwn bellach yn yr arfer o fynychu'r lle. Gwelais droedfeddi sgwar o bethau wedi'i gosod a'u lapio mewn amryfal ffyrdd ymdrechgar ddeniadol iddynt ymddangos o well safon nag yr oeddynt.
Fe'm hatgoffwyd gyda diflastod o'r siom ar ôl cael bargen dybiedig; y sosban honno ddechreuodd golli'i haenen wrthgludo y tro cyntaf imi ei defnyddio, a'r gwydrau yn torri fesul un gyda'r tolc lleiaf...
Ond fe wnes i bwynt o edrych ar y pic'nMix er mwyn cael nodi hynny, gan mai dyna yr honnir i Woolwrths fod yn enwog amdano.
Rhaid imi gyfaddef mod i n cofio Woolworths cyn dyddiau pic'nMix. O siop Kerry Evans yn gyfleus agos at Yr Ysgol Gymraeg, Ffordd Alecsandria, y prynem ein swits cymysg, a chael pwyntio ein dewisiadau o ochr arall y cownter uchel er mwyn i Mrs Evans gael casglu'r danteithion a'u rhoi mewn bag papur gwyn inni.
Cerddais ymlaen, gan geisio ymddangos fel siopwraig yn oedi wrth ambell eitem a chlywais sgwrs y gweithwyr sy'n gwerthu cerddoriaeth yn chwerthin ar y tebygrwydd posibl y byddant yn gwerthu'r Big Issue ymhen diwedd y mis.
Yn falch o'u hagwedd ddi-ildio anfonais weddi fach dros holl weithwyr Woolworths, Aberystwyth.
Ymlaen â'm pererindod i'r pen draw at y drysau tân haearn, a chofio'r dyddiau pan oedd modd dod i mewn ac allan drwy'r fynedfa gefn yn Stryd y Frenhines.
Cyfleustra fy Mam oedd medru torri drwy Woolworths ac arbed cornel a gwaelod y Stryd Fawr pan oedd y plant yn fach a bywyd yn brysur.
Ond newidiodd pethau gyda dyddiau pobl ddrwg yn dwgyd ac yn dianc drwy'r drysau cefn, a bu rhaid eu troi yn allanfa dan.
Rhywbeth diweddar hefyd, oedd y peiriant tynnu lluniau y bum ynddo rhyw dro.
'Nol wedyn, drwy'r dillad plant, a siopwyr ysglyfaethus yn chwilio bargen ymhlith silffau gwag hyll.
Digon balch oeddwn o gyrraedd y drysau blaen unwaith eto wedi'm hymweliad di-bwrcas, yn ymwybodol euog o'm difaterwch ar ddifodiant siop Woolworths, Aberystwyth.
A'm taith deyrnged ar ben, ymlaen a mi i lawr y Stryd Fawr, oedais with y Swyddfa Bost a phrynais gopi gwaredol mis Rhagfyr o The Big Issue."