BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Rhys Llwyd Ysgoloriaeth R. Tudur Jones
Tachwedd 2006
Cyhoeddodd Ysgol Ddiwinyddol Prifysgol Bangor mai Rhys Llwyd o Gomins Coch yw enillydd Ysgoloriaeth Goffa R. Tudur Jones.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu er mwyn coffau'r diweddar R. Tudur Jones, un o brif haneswyr Cristnogaeth Cymru'r ugeinfed ganrif, cyn-brifathro Coleg Bala-Bangor, athro er anrhydedd yn Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, Bangor a chyn-weinidog Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth.

Mae Rhys yn fab i Pedr ap Llwyd a Mari Llwyd ac yn frawd i Elain a Cynan. Graddiodd Rhys gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Cymru Aberystwyth eleni. Mae'n weithgar gyda mudiadau Cristnogol a chenedlaetholgar ac yn golofnydd cyson i'r cylchgrawn Barn ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig, lle bu'n Brif Ddisgybl.

Yn ôl yr Athro D.Densil Morgan, pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mangor: 'Byddai'r Athro Tudur yn falch eithriadol fod ysgolheictod Cristnogol Cymreig yn parhau, a bod myfyrwyr disglair yn dal i ddod ymlaen i wneud cyfraniad i'n byd cyfoes.'

Manteisiwn ar y cyfle hwn hefyd i longyfarch ei chwaer Elain. Enillodd Elain ohoni ddwy ysgoloriaeth i fynd i astudio'r Gymraeg i Brifysgol Caerdydd eleni, y naill ar sail ei chanlyniadau lefel 'A' a'r llall o ganlyniad i gystadleuaeth agored. Pob dymuniad da iddi yn ei hastudiaethau. Llongyfarchiadau mawr i'r brawd a'r chwaer!

Dy dro di nawr Cynan!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy