"Ro'n i wedi bod yn edrych ymlaen
i Gyfrifiad 1911 ymddangos, ac wedi meddwl yn siwr y byddai hi'n ddwy, os nad yn dair blynedd eto.
Roedd hi'n 2002 arna i'n cael gweld cofnodion 1901 beth bynnag. Ond, ryw dair wythnos yn ô1, dyma dderbyn e-bost yn fy nghyfeirio at wefan www.igileensus.co.uk, lle roedd y wybodaeth eisoes ar gael.
Gyda chyfrifiadau o'r blaen, ceisio llenwi bylchau gyda gwaith ymchwil a hanes teulu yr oeddwn i; y tro yma, roedd hi ' chydig yn wahanol.
Ro'n i'n gwybod am beth ro'n i'n chwilio ac yn gwybod hefyd, fwy neu lai, beth fyddai yno. Mi fyddai yna bobl yn y fan hyn yr o'n i'n eu hadnabod yn bersonol.
Mi ddylai fy nhaid, tad fy mam, fod wedi bod yno, ond roedd y teulu hwnnw yn America ar y pryd. Mi fvddant yn eu holau erbyn y Cyfrifiad nesaf!
Ar nos Sul, 2 Ebrili 1911 y gofynnwyd i bobl lenwi eu ffurflenni; pe bai fis yn ddiweddarach, mi fyddai fy nain wedi bod yno. Gadawai hynny ddwy gangen i mi chwilio amdanynt.
Chefais i ddim llawer o lwc yn chwilio am Thomas Jones, fy hen daid - a dyna un o wendidau'r wefan. Er eu bod yn honni iddynt gyrraedd `targed cywirdeb' 0 98.5%, nid dyna'r argraff a gefais i.
Dywedir wrthych nad yw cofnod yn bod, a chithau'n gwybod yn well. Mae hyn yn ddigon drwg efo enwau pobl - dychmygwch y llanast sydd ar enwau llefydd yng Nghymru.
Ond, y tro hwn, enw lle a'm harweiniodd i at y wybodaeth yr o'n i'n chwilio amdani. Chwarelwr oedd fy hen daid, ond roedd hefyd yn berchen ar dyddyn, a'r enw hwnnw a'm harweiniodd at gofnod y teulu, wedi i mi fethu gyda sawl enw person.
Yng Nghyfrifiad 1901, roedd Thomas Jones yn 30 oed, yn briod a Catherine E., 26 oed, ac yn dad i Thomas, 3, a Robert, 11 mis.
Yng ngholofn y 'Languages Spoken', nodwyd bod y ddau riant yn siarad `Both'.
Erbyn 1911, roedd y teulu wedi tyfu cryn dipyn. Saith o blant, a'r ieuengaf, Emrys, yn saith mis oed. Dyma fy nhaid, ac roedd yn wefr gweld ei enw yno'n swyddogol.
Ond roedd rhywbeth wedi fy nharo cyn hynny. Y pennawd ar frig y dudalen: CYFRIFIAD LLOEGR A CHYMRU, 1911.
Roedd hi'n ffurflen uniaith Gymraeg. Yn 1911, am y tro cyntaf, gofynwyd i bob penteulu lenwi'r ffurflen ei hun, yn hytrach na bod swyddogion yn gwneud ar eu rhan, a bu'n rhaid darparu ffurflen Gymraeg ar gyfer y siaradwyr uniaith.
Erbyn 1911, roedd Thomas a Catherine Jones, oedd yn siarad `Both' ddeng mlynedd ynghynt, yn mynnu mai `Cymraeg' yn unig yr oeddent yn ei deall!
Dyma droi wedyn at deulu fy mam, ac unwaith eto, roedd gen i enw lle. Mae fy nain yn un o ddeuddeg o blant, ac mae enwau chwech ohonynt i'w gweld yn y cofnod hwn.
Ffurflen Gymraeg ydi hon eto, a nodir bod Griffith Pritchard, fy hen daid, yn siaradwr uniaith, ond bod ei wraig, fy hen nain, yn siarad `y Ddwy'.
Yr hyn sy'n drawiadol ydi mai hi, Hannah Pritchard, ydi'r `Penteulu' sydd wedi llenwi'r ffurflen a'i llofnodi. Roedd gan y teulu ddau weithiwr yn cyd-fyw a nhw: un yn `Gertiwr ar Farm [sic]' a'r llall yn `Forwyn gyffredin Deuluaidd'.
Mae gan fy nain frith gof o forwyn ar yr aelwyd, ond daeth hynny i ben gyda dirwasgiad y tridegau.
Hyd y gwelaf i, mae www.1911.census. co.uk yn wefan digon hawdd ei defnyddio, oni bai am y gwallau trawsysgrifio. Yn anffodus, mae'n fusnes drud - yn enwedig os nad ydi'r union wybodaeth gennych cyn dechrau.
Mi gewch chwilio am ddim, ond mae'n rhaid talu am gael gweld y cofnodion, ac yn aml, mae'n rhaid eu gweld cyn gallu penderfynu ai hwnnw ydi'r cofnod iawn ai peidio. Ond gan mai dyma'r unig le y cewch weld Cyfrifiad 1911 am y tro, mae'n siwr y bydd digon o bobl yn fwy na pharod i dalu."
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol