Efallai bod afonydd a llynnoedd Affrica, De America ac Asia filoedd o filltiroedd o Adeilad Edward Llwyd yin Mhrifysgol Aberystwyth, and dyma le mae Karl Hoffmann, Athro Parasitoleg yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS), ar fin dechrau prosiect ymchwil sydd â'r potensial i wella bywydau miliynau o bobl sy'n cael eu hamlygu'n rheolaidd i lyngyr parasitig Schistosome. Amcangyfrifir bod tua 200 miliwn o bobl wedi eu heintio gan lyngyr parasitig Schistosome, a hyd at 300,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Prif gartref y llyngyren yw'r corff dynol. Mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol Affrica, De America ac Asia, caiff wyau'r parasit eu rhyddhau i'r amgylchedd gan unigolion heintiedig, gan ddeor wrth gwrdd â dŵr croyw. Mae'r wyau hyn yn heintio malwod, sydd fel llety dros dro iddynt, hyd nes y bydd cercariae, neu larfae parasitig, yn cael eu rhyddhau. Chwiliant am gartref dynol drwy gydio yn y croen ac yna mudo drwyddo i'r system ysgyfeiniol, ac yn y pen draw i'r gwythiennau sydd o amgylch yr iau a'r bledren. Dyma lle mae'r llyngyr yn cyrraedd oed cenhedlu ac yn cynhyrchu cannoedd o filoedd o wyau bob dydd. Caiff Rawer o'r wyau hyn eu rhyddhau mewn carthion dynol, and mae eraill yn aros yn y corff, a gall y llyngyr fyw mewn pobl am hyd at 30 o flynyddoedd. Er bod modd trin y parasitiaid â chyffuriau, maen nhw wedi dechrau magu ymwrthedd i'r driniaeth arferol, ac mae goblygiadau hyn yn ddifaol, gyda gwir berygl o bandemig a allai daro miliynau o bobl. Yn ddiweddar, dyfarnodd Ymddiriedolaeth Wellcome, yr elusen ymchwil feddygol fwyaf sy'n ariannu ymchwil i iechyd dynol ac i iechyd anifeiliaid, grant ymchwil prosiect tair blynedd i'r Athro Hoffmann a fydd yn caniatau iddo weithio at greu brechiad i frwydro yn erbyn y llyngyr hyn.
 |