Yn ystod haf 2009 dechreuodd grŵp fechgyn ifainc leol chwarae yn y bandstand er mwyn adlonni pobl a oedd yn mynd am dro ar y prom fin
nos. Roedd saith ohonynt i gyd, pump o ddisgyblion o Benweddig a dau ddisgybl o Benglais, er bod un ohonynt, erbyn hyn, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cerddoriaeth ska yr oeddent yn ei chwarae a'r bechgyn eu hunain oedd yn ysgrifennu'r geiriau ac yn cyfansoddi'r gerddoriaeth. The Unknown oedd enw'r band a dechreuont gael eu gwahodd i chwarae mewn amrywiol gigs lleol, gan fod yn boblogaidd iawn yn enwedig yn Undeb y Myfyrwyr, a gan grwydro hefyd
mor bell ag Abertawe i ddiddanu cynulleidfa. Uchafbwynt y band hyd yma oedd cystadlu yn Brwydr y Bandiau ar Radio Cymru. Roedd rownd gyntaf y gystadleuaeth yng ngwesty'r Plu, Aberaeron, ac wedi llwyddo yno dyma gymryd rhan yn y rownd nesaf yng Nghaerfyrddin. Cawsant lwyddiant unwaith eto gan fynd drwodd i'r rownd gyn-derfynol a oedd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru. Yn y cyfamser cawsant recordio can mewn stiwdio yn Llanelli a chael cyfle i ymddangos ar raglen deledu Uned Pump ar S4C. Yr enillydd oedd yr un dderbyniai'r fwyaf o bleidleisiau gan wrandawyr drwy Gymru gyfan ac, unwaith eto, 'The Unknown' fu'n llwyddiannus. Ar Fawrth 23ain eleni cynhaliwyd y rownd derfynol rhwng y tri band a gyrhaeddodd y brig. Band o Lanelli, yr Angen, a gafodd y fwyaf o bleidleisiau y tro hwn ond derbyniodd The Unknown ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Hoffai aelodau'r band ddiolch vn fawr i bawb a bleidleisiodd.
 |