"Roedd adeilad a chymdeithas Tabernacl wedi bod â rhan bwysig a chofiadwy ym mywydau amryw o drigolion y dref, yn eu plith Mrs Megan Evans sy'n rhannu rhai o'i hatgofion am y capel: Wrth fynd dros Bont Trefechan a syllu draw ar y Tabernacl brynhawn Sadwrn 5 Gorffennaf a gweld y mŵg yn dal i godi dros rannau o'r tô a oedd wedi ei ddinistrio gan y tân yn ystod y nos, geiriau o awdl y diweddar Dr T Gwyn Jones ddaeth i'r côf, yn disgrifio y tân yn y deml yn "Cwymp Caersalem": "Eglur oedd fel disglaer em/Hun oer sydd yn aros/ Drosti'n awr, mor drist ei nos." Deuthum yn aelod yn y Tabernacl fis Medi 1950 wedi priodi Glyn a fu yn aelod oes yno. Gallaf gofio yn dda am y croeso cynnes a dderbyniais gan y gweinidog, y Parchg. J. E. Meredith a chan y blaenoriaid, llond sêt fawr ohonynt. Ymhen cwta dair blynedd deuthum i fyw i Penparcau o Trawscoed a chael yr un croeso yn y gangen, sef Ebeneser. Wedi arfer ers yn ieuanc mynd i bob achlysur yn y capel, cefais fy hun ymhen rhai blynyddoedd yn derbyn swyddi o fewn, yn bennaf, y cymdeithasau, a theimlo fod gwasanaethu yn y fath fodd yn gymorth mawr i mi ddod i adnabod fy nghyd-aelodau yn well. Cefais lawer bendith hefyd yn y cyrddau gweddi ac ambell seiat. Yn flynyddol bydddai'r 'Cyfarfodydd Pregethu' yn cael eu cynnal yn yr Hydref gyda dau bregethwr gwâdd. Ar y nos Fawrth byddai un yn pregethu yn Ebeneser a'r llall yn y Tabernacl. Drannoeth byddent yn rhannu, un yn y bore a'r llall yn y prynhawn ond fe fyddai'r ddau yn traethu yn y nos a'r capel yn gyfforddus lawn. Ar ôl ymddeoliad y Parchg. J. E. Meredith fe ddaeth gweinidog newydd atom o Frynaman yn 1970 sef y Parchg. J. Elwyn Jenkins, a bu'n fugail yma am 28 mlynedd. Rhaid i mi gyfeirio yma at y pleser o fod yn aelod yn y Gymdeithas Lenyddol a Diwylliadol oedd â'r arwyddair "Ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb". Cafwyd cyfarfodydd amrywiol ond y ddau fwyaf pwysig oedd "Dathlu'r Nadolig" a "Dathlu Gŵyl Ddewi" efo'r cawl cennin a'r darten 'fale i ddilyn! Cynhaliwyd 'Cymdeithas y Chwiorydd' hefyd an flynyddoedd. Yr enw ar y gymdeithas hon i ddechrau oedd "Tabernacle Ladies Sewing Guild". 'Roedd y nodwydd a'r edau wedi eu rhoi heibio ers tro cyn i mi ddechrau fel ysgrifennydd a'm gwaith oedd trefnu 'rota' o chwiorydd i baratoi te ar brynhawn Mercher. Dirywiodd y gefnogaeth ymhen tipyn ac fe ddechreuwyd cynnal boreuau coffi. Bu rhain yn llwyddiannus iawn yn gymdeithasol ac fe fyddai'r dynion wrth eu boddau yno. Wedi i'r Parchg. J Elwyn Jenkins symud i Lambed yn 1998 bu'r eglwys yn ddi-fugail ond fe gafwyd cymorth parod y Parch. Pryderi Llwyd Jones ar lawer achlysur. Wedi hir drafod, penderfynwyd fod yn rhaid cau'r Tabernacl, er mawr siom i'r aelodau oedd yn weddill, ond rhaid oedd derbyn fod yr aelodaeth yn mynd yn llai a'r costau yn cynyddu. Daeth yr awr i ymuno â Chapel y Morfa ac fe aeth y mwyafrif o'r aelodau yno, a'r gweddill i gapeli eraill y dre. Daeth Ebeneser yn gangen o'r Morfa a diolch am y gefnogaeth gyson oddi yno ers yr uno. Bu Côr Meibion Aberystwyth yn cynnal ei ymarferion yn y Tabernacl am flynyddoedd lawer cyn iddynt hwy chwilio am gartref newydd rhyw flwyddyn yn ôl. Mae gan ein Cyfundeb arwyddair sef "Symud Ymlaen", ac er y tristwch a'r siôm o weld ein 'hen gartref ysbrydol' wedi ei ddymchwel a'r sbwriel yn awr lle y bu, rhaid i ninnau symud ymlaen a chadw ein ffydd yn yr hwn a'n cynhaliodd ar y daith hyd yma."
 |