BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
pamfflediFaint gostiodd hyn i gyd?
Mai 2010
Stori am yr arian a wariodd y pleidiau yng Ngheredigion yn ystod yr Etholiad Cyffrediniol.

Mae'r etholiad drosodd, y pleidleisiau wedi'u cyfrif, y pamffledi yn y sach ailgylchu, y polion posteri wedi'u rhoi gadw tan y tro nesa .

Unwaith eto yng Ngeredigion bu'r etholiad yn frwydr ffyrnig rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Tawel iawn fu ymgyrchoedd y Ceidwadwyr, Llafur, Y Gwyrddion a UKIP.

Ond faint gostiodd hyn i gyd? Mae rheolau etholiadol yn cyfyngu ar faint y gall pob plaid wario ar yr ymgyrch ac mae'r swm yn seiliedig ar y nifer o etholwyr cofrestredig yn y sir.

Yn y cyfnod rhwng y Dydd Calan a'r 12fed o Ebrill, sef diwrnod cau'r Senedd, roedd hawl gan bob ymgeisydd yng Ngheredigion wario hyd at £29,000 ar ei ymgyrch.

Rhwng y 12fed Ebrill a dydd yr etholiad ceir gwario tua £12,000 arall. Ar ben hynny caiff pob plaid wario swm ychwanegol ar gyhoeddusrwydd yn enw'r blaid yn genedlaethol ond nid yn enw'r ymgeisydd lleol.

Pan ofynnwyd i Mark Williams faint oedd Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwario ar yr etholiad ei ateb oedd, "I really have no .dea, you'd better ask my agent."

Yn ffodus roedd ei asiant, yn gwybod yr ateb. Rhwng Ionawr a dyddiad galw'r etholiad gwariodd y Dem Rhydd £20,000 ac £ll,500 yn ystod yr ymgyrch.

Cafwyd tua £10,000 gan y blaid yn ganolog gyda'r gweddill yn dod o'r gronfa leol. Gwariwyd ychydig yn llai gan Blaid Cymru, tua £18,000 yn y cyfnod cyn yr etholiad a hyd at yr uchafswm o £12,000 yn ystod yr ymgyrch.

Rhoddion a chyfraniadau gan aelodau a chefnogwyr yng Ngheredigion fydd yn talu am ran helaeth or gost gyda'r gweddill yn dod o coffrau'r blaid yn ganolog.

£3,000 yn unig oedd gan y Ceidwadwyr i wario ar eu hymgyrch a daeth y cyfan o gyfraniadau gan aelodau lleol. Nid oedd haelioni Lord Ashcroft wedi cyrraedd Ceredigion.

Ni chafwyd unrhyw ymateb gan y Blaid Lafur, y Gwyrddion na UKIP.

Rhaid cofio nad y pleidiau gwleidyddol yn unig sy'n wynebu costau. Mae Cyngor Ceredigion wedi neilltuo £110,000 ar gyfer costau staff, defnyddio adeiladu, argraffu, postio ayb. Y trethdalwyr fydd yn talu.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy