BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Sioned GriffithsBle fyddwch chi'n treulio'r ŵyl eleni...?
Rhagfyr 2005
I lawer o bobl does unman fel bod gartref adeg y Nadolig. Ond mae eraill wrth eu bodd yn treulio'r Ŵyl dramor. Bu'r Angor yn siarad â phedair merch o ardal Aberystwyth am eu profiadau - sy'n wahanol iawn.

Sioned Griffiths - Dolig yn Dubai.

Mae Sioned, sy'n ferch i Gareth a Sandra Griffiths, Llys Dewi, Waunfawr yn byw yn Dubai ers 3 mlynedd. Mae hi'n dysgu plant bach mewn ysgol yno. 'Dwi'n ffodus gan fod yr ysgol yn cau ar y 21 Rhagfyr, felly fe fydda'i ddim yn gweithio dros y Nadolig. Dim ond ysgolion Saesneg/Americanaidd/ Ewropeaidd sy'n cael gwyliau ar yr adeg yma gan mai gwlad Fwslemaidd yw'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Fore Nadolig fe fydda i a Darryl yn treulio'r bore ar y traeth ar ôl cael brecwast yn ymyl y pwll nofio. (Fe fydd yr haul allan dwi'n siŵr - mae'n braf yma bob dydd!). Cawn ginio Nadolig hwyr yn y pnawn (gŵydd) ac fe fyddai'n cau'r llenni er mwyn creu awyrgylch, gaeaf/Nadoligaidd! Mi fyddwn hefyd yn gwylio dvd fel 'The Snowman'.

Mae'r Nadolig i fi yn wahanol iawn yn Dubai. Dim ond fi a Darryl sydd yma - dim ffirindiau na theulu agos i ymweld â nhw. Gartref yn Aberystwyth fydden i'n treulio'r bore yn mynd o un tŷ i'r llall - mynd ag anrhegion a chardiau i aelodau'r teulu a ffrindiau. Yma yn Dubai dwi'n cael cardiau a rhai anrhegion a dwi'n danfon pethe adre ond dydyn nhw ddim bob amser yn cyrraedd Aberystwyth. Eleni dwi wedi anfon pethau bach adref efo Dave a Dilys (Bistro Gannets)...ma' nhw newydd fod yma ar wyliau! Diolch Dave a Dil!

Mae Nadolig yn wahanol yma - rhaid creu awyrgylch eich hunan gan fod y ffyrdd yn brysur, y siopau ar agor, popeth fel unrhyw ddiwrnod arall. Tywydd yn wahanol, cwmni yn wahanol, awyrgylch wahanol. Dwi'n colli'r tywydd iachus adre a'r mynyddoedd (mae hi'n gwbwl fflat yn fan hyn). Colli'r oerfel hefyd weithiau...'

Sara Penrhyn Jones - Dolig yng Ngwlad Siôn Corn.

Mae Sara a'i theulu ifanc yn byw yn ardal Ffordd Trefor. Swyddog Project i Lenyddiaeth Cymru Dramor yw Sara.

'Rydw i'n dueddol o dreulio'r Nadolig yn Sweden pan fedrai, oherwydd tan yn ddiweddar roedd fy rhieni yn byw yng Ngogledd Sweden, yn Lapland. Dyna'r lle amlwg i ddathlu Nadolig!

Yn draddodiadol, maen nhw'n dathlu Nadolig ar 24 Rhagfyr yn Sweden. Mae'n ddathliad syml o gymharu a'r ffordd Brydeinig o wneud pethau, ond mae lot o hwyl i'w gael! Mae 'Sion Corn' lleol ym mhob pentref sy'n dod ac anrhegion i dai pobl, ac yn dawnsio o gwmpas y goeden Nadolig gyda'r teulu. Mae pobl yn bwyta rhyw fath o Smorgasbord o salmon, ham, 'meatballs' gyda jam 'lingon' (mae'r aeron yma fel , 'cranberries' ond yn llai, ac yn fwy blasus na'r rhai Americanaidd), herring wedi piclo, tatws, dill ...dwi'n codi chwant bwyd yn meddwl am y wledd yma...!

I yfed mae gwin cynnes aromatic. Maen nhw'n bwyta bisgedi sinsir drwy'r ŵyl, ac mae pobl yn debygol iawn o bobi'r rhain eu hunain mewn lot o siapau gwahanol, a hongian rhai ar y goeden. Maen nhw hyd yn oed yn adeiladau 'pentre' bach, wrth bobi darnau o'r bisgedi yma, a'u gludo gyda'i gilydd gyda siwgr sydd wedi toddi. Mae eising gwyn yn cael ei bibellu'n batrymau del i greu ffenestri, a drysau, a siwgr eising yn bowdr dros y cyfan fel eira.

Yr hyn sy'n arbennig am y Nadolig Swedeg ydi'r oerni ac eira! Mae hyn yn ei gwneud mor gysurus i fod yn y tŷ, ac mae pawb yn gosod canhwyllau yn eu ffenestri, a gan fod coed pîn yn dod o Sweden yn naturiol, mae gan sawl person goeden felly yn yr ardd, ac maen nhw'n eu haddurno gyda goleuadau gwyn del. Mae'n hynod o arbennig gweld y 'Northern Lights' hefyd ar y nosweithiau oeraf. Gwelais i'r sioe oleuadau ddramatig yma ddwy flynedd yn ôl dros Dolig, roedd o fel rhyw niwl gwyrdd yn dawnsio yn yr awyr. Dim ots faint mae pobl yn gwario ar Nadolig ym Mhrydain, does 'na ddim byd yn creu mwy o argraff nag elfennau mwyaf dramatig natur ei hun. Eleni yn Rhydychen fydda i a'r teulu dros y Nadolig - a'r anrheg Nadolig gorau fydde dipyn o eira...!

Lucy Huws - Nadolig yn Hong Kong.

Un o Benrhyn-coch yw Lucy'n wreiddiol ond yn Hong Kong bydd hi'n treulio'r Nadolig eleni. Mae hi a'i theulu wedi treulio cyfnodau yn byw yno ac mae nhw yno ar ymweliad ar hyn o bryd.

'Da'n ni (finne a Miles, a'n merched Gwenllian a Dwynwen) wedi cael gwahoddiad i dŷ ffrindiau, ble byddwn debyg yn bwyta twrci a'r trimmings yn yr ardd. Awn i'r eglwys hefyd. Yr unig wahaniaeth rhwng y Nadolig yma ac yng Nghymru yw'r tywydd. Yn aml mae'n dywydd glan-môr, salad a hufen iâ, ond mae pawb yn stryglo gyda'r bwydydd traddodiadol. Mae Hong Kong yn lle rhyngwladol iawn, ac felly gall hynny amrywio o dwrci a phwdin dolig, i 'foie gras' a log siocled. Mae'r canolfannau siopa wedi'i haddurno yn Nadoligaidd ers i addurniadau noson galan gaea ddod i lawr!

Mae Hong Kong ar ei ore yn y misoedd sy'n arwain at y Nadolig. Mae'r lleithder poeth wedi cilio, ac mae'r tywydd braf a heulog ar y cyfan, gyda digon o blanhigion yn llawn blodau, a gloynod byw anferth lliwgar ymhob man. Mae'r Nadolig yn adeg braf i fwynhau bod allan ar y traethau neu yn cerdded.'

Christine Jones - Nadolig Ffrengig.

Yn wahanol i'r tair arall nid Cymraes o genedigaeth yw Christine. Ond bellach mae wedi byw yma ers ugain mlynedd a mwy. Mae wedi dysgu Cymraeg, yn byw yn Nhalybont ac mae'n gweithio yn y Ganolfan Dwristiaeth yn y dre.

'Ces i fy magu ym Mharis ac roedd y Nadolig yno yn wahanol iawn i'r Nadolig Cymraeg. I blant mae'r Nadolig Ffrengig, Calan yw'r Ŵyl bwysicaf i'r oedolion. Dyw Ffrancwyr ddim yn danfon cardie i'w gilydd - i'r plant y danfonir cardie.

Noswyl Nadolig yw amser y pryd mawr o fwyd - twrci a 'yule log'- nid pwdin Nadolig! Mae dydd Nadolig wedyn yn eitha fflat - does neb yn gwneud dim. Dwi'n falch mae yng Nghymru y bydda i yn gwario'r Nadolig eleni - dwi'n mwynhau'r holl ffws o goginio pryd mawr tra bod y plant o amgylch yn chwarae â'u teganau newydd. Mae'n lot o hwyl.'


Cyfrannwch

Gareth Lloyd o Budapest
Eleni , rydw i'n treilio Dydd Nadolig Budapest ar y 24rydd O Rhagfyr a wediyn hedfan yn ol i cael Cinio Nadolig gyda Mam. Yn Hwngari mae'r Nadolig yn dechrau tua 3-4 o'r gloch pan maen tywyll tu allan ac mae'r angel yn dod a anrhegion nid Sion corn achos mae ef yn dod are y Chweched o Rhagfyr. Cino Nadolig yw Pysgod, neis iawn!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy