Cyhoeddwyd enwau'r buddugwyr mewn seremoni arbennig yng ngwesty crand Dewi Sant yn ardal y Bae yng Nghaerdydd gerbron cynulleidfa o gyhoeddwyr ac addysgwyr blaenllaw. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i'r Ganolfan yn y dosbarth Llythrennedd Cynradd Cymraeg am Gyfres Clic. Meddai Helen Emanuel Davies, Cyfarwyddwr y Ganolfan, 'Mae'r Ganolfan yn falch iawn o fod wedi derbyn yr anrhydedd hon. Mae Cyfres CIic yn boblogaidd ymysg athrawon a phlant ac mae gwobr fel hon yn deyrnged i ymroddiad awduron a staff fel ei gilydd.' Cynllun darllen sy'n cynnwys agweddau ar siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yw Cyfres Clic, ac mae ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 6,7 ac 8 sydd ag oed darllen yn y Gymraeg yn is na'u hoed cronolegol. Mae ynddi 52 o lyfrau a dwy Ffeil Adnoddau yn cyd-fynd â'r llyfrau.
 |