Gan mai un o brif nodau y cwmni yw denu cynulleidfaoedd yn ôl i'r theatr roedd disgwyl efallai gweld llwyfannu cynhyrchiad ysgafnach ac ehangach ei apêl. Ond mentro a wnaeth Cefin Roberts a'i griw i lwyfannu drama bwerus Michael Povey, drama sy'n ymwneud â salwch meddwl a'r tensiynau y gall hyn greu o fewn teulu pan mae aelod yn dioddef.
Pedwar cymeriad sydd yn y ddrama a lleolir hi yng nghartref y fam ar ddiwrnod ei hangladd. Daw'n amlwg o'r cychwyn nad yw pethau'n fêl i gyd rhwng Glyn, nad yw wedi symud o'i filltir sgwâr, a'i chwaer, Olwen sydd yn byw yng nghanolbarth Lloegr ac yn ymwelydd anghyson â'r cartref. I'r pair hwn ychwanegir Derec, y brawd arall sydd angen gofal parhaol ac wedi ei gael yn y gorffennol gan y fam ac Elin, gwraig oddefgar Glyn. Mewn drama ôl bath lle mae cymaint o bwyslais ar y cymeriadu mae angen perfformiadau cryf a dyna gafwyd gan y pedwar sef Bryn Fôn, Glyn Pritchard, Gwenno Hodgkins a Siw Hughes. Trwy ddefnyddio technegau sain a chorws yn gynnil effeithiol cyfrannwyd at y cynhyrchiad gan roi cyfle i'r gynulleidfa gael mynediad i fyd preifat Derec gan atgyfnerthu portread gwych Glyn Pritchard. Os oedd gwendid, hyd y ddrama oedd hynny. Gellid fod wedi torri ar ei hyd heb golli pŵer y ddrama na'i neges, sef fod y ffin rhwng gwallgofrwydd a chasineb yn un denau iawn. Cynhyrchiad gwerth ei weld ac yn Aberystwyth a leiaf fe lwyddodd yn ei nod a ddenu pobl nôl i'r theatr. Gobeithio'n wir i'r ddrama roi hwb i'r gynulleidfa fentro i'r theatr yn amlach yn y dyfodol. Deian Creunant
 |