BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Arwyn a Lucy Taylor ym Mhen BrynSiaradwch Gymraeg â Fi! Lucy Taylor
O gwmpas Stryd y Faenor, lle dwi'n byw, ar gampws Prifysgol Cymru Aberystwyth, ble dwi'n gweithio, ac yng Ngoginan, ble mae'r teulu Roberts (teulu fy ngŵr) yn ffermio ym Mhen-bryn.

Ces i fy ngeni yn Flash ger Buxton, yn y Peak District. Pentref bach ydy e -yr uchaf ym Mhrydain. Ces i fy magu yng nghefn gwlad, ond dihangais i i Lundain i astudio daearyddiaeth a hanes ac i fwynhau'r goleuadau llachar! Ar ôl teithio i Dde Amerig, penderfynais i ddysgu mwy, ac es i i Glasgow i wneud gradd Meistr mewn Astudiaethau De Amerig.

Wedyn es i i Fanceinion i wneud doethuriaeth mewn dinasyddiaeth a gweriniaeth yn Ariannin a Chile. Es i dramor am flwyddyn i wneud ymchwil a gwneud cyfweliadau gyda gwleidyddion a phobl o'r cymdeithasau hawliau dynol a'r grwpiau ffeministaidd. Des i i Aberystwyth yn 1996 i'r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ble dwi'n gweithio fel darlithydd.

Dechreuais i ddysgu Cymraeg ar ôl i fi gwrdd ag Arwyn, Cymro o Goginan. Ron i newydd brynu tŷ ac roedd angen adeiladwr i agor y lle tân - ond fe daniodd mwy na'r coed tân!

Priodon ni dair blynedd yn ôl a nawr dyn ni'n disgwyl babi bach Cymraeg ym mis Hydref.

Dwi wrth fy modd yn siarad Cymraeg â'r teulu, y cymdogion a fy nghydweithwyr er fy mod i'n gwneud llawer o gamgymeriadau. Dy'n ni wedi dechrau Clwb Cinio Cymraeg i'r dysgwyr yn unig yn ein hoedran ni yn y Coleg.

Roedd hi'n anodd siarad Cymraeg ar y dechrau achos ro'n i'n teimlo mor dafodrwm a dwl ac mae hi'n cymryd amser i ddod yn hyderus. Diolch i bobl amyneddgar iawn dwi'n hapus nawr i siarad Cymraeg ac mae'r holl ymdrech wedi talu ddeg gwaith drosodd - ond dwi ddim yn barod eto i ddarlithio drwy'r iaith Gymraeg!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy