Y darn gosod oedd 'Clywch, Clywch', carol blygain i'w chanu'n unsain - profiad gwahanol iawn i ni fel côr pedwar llais. Fel ail ddarn, ac mewn cyferbyniad llwyr, fe ddewison ni ganu trefniant
Hughe Gwynne o 'Hen Ferchetan'. Roedd 'na wyth côr yn cystadlu, a'r rheini yn dod o bob rhan o Gymru, gan gynnwys côrau timau rygbi'r Sgarlets a'r Gweilch. Ar ôl rhagwrandawiad yn Ysgol Tregaron, fe gyrhaeddon ni lwyfan Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn oriau mân y bore! Roedden ni'n ddigon hapus gyda'r perfformiad, a chan ei bod hi mor hwyr, fe drodd y rhan fwyaf o'r aelodau tua thre, gan golli cyffro'r feirniadaeth a'r canlyniad! Cafwyd canmoliaeth uchel i safon y gystadleuaeth gan y beirniaid, Delyth Medi a Marilyn Lewis, ac fe ddyfarnwyd y wobr gyntaf, ynghyd â Chwpan Parti'r Ffynnon a thlws yr Ŵyl, i Gôr ABC, gyda dau o gorau ifanc Caerdydd, CF1 ac Aelwyd Waun Ddyfal yn ail ac yn drydydd. Lluniau a chanlyniadau o Ŵyl Cerdd Dant 2007
 |