Penodwyd Gwennan Davies, merch 23 mlwydd oed o gyffiniau Llanbedr Pont Steffan fel swyddog datblygu i Fenter Aberystwyth yn ddiweddar a dechreuodd yn y swydd ar y 1af o Fehefin. Wedi derbyn ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, graddiodd o Brifysgol Caerdydd mewn Dylunio Dinesig a Threfol yn 2008 ac aeth ymlaen i astudio cwrs ô1¬
radd MSc mewn Astudiaethau Adfywio. Treuliodd blwyddyn o'u chwrs gradd yn gweithio i gwmni Cynilunio Savills yng Nghaerdydd lle cafodd y profiad amhrisiadwy o weithio i gwmni preifat. Mae gan Gwennan nifer o ddiddordebau ac mae'n ferch brysur iawn o fewn ei chymuned yn Llanwenog. Chwaraea'r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ran allweddol yn ei bywyd, ac yno mae wedi ymgymryd at nifer o swyddi gan dderbyn yr ysgrifennydd gorau yn y sir rai blynyddoedd yn ô1. Mae ganddi'r gallu i gyfathrebu'n ddwyieithog gan mae Cymraeg yw ei hiaith gyntaf. Mae hefyd yn hoff iawn o gymdeithasu a chwarae pêl-rwyd. Un o brif ddyletswyddau Gwennan fydd `Datblygu a Gweithredu Naws Lle
Cydlynol yn Aberystwyth' a ariannir gan y Cynulliad ac Ewrop er mwyn datblygu ein ardaloedd gweledig. Ynghyd a'r prosiect yma mi fydd Gwennan yn trefnu gweithgareddau ar gyfer y'Bandstand' yn ystod misoedd yr haf, gwobrwyo busnesau Aberystwyth, trefnu Ras Hwyl mewn Gwisg Gymreig, ac ar ddiwedd y mis, ar y cyd gyda'r Siambr Fasnach, mi fydd `Arweinlyfr' (Guide Book) Aberystwyth yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn 09/10. Cred Gwennan "bod Menter Aberystwyth yn bartneriaeth allweddol i ddatblygiad ac adfywiad y dref a'r ardal o'i chwmpas. Mae Aberystwyth yn un o'r trefi hynny sy'n gael ei chydnabod fel ardal bwysig yn natblygiad Cymru fel gwlad. Fy nghyfrifoldeb i fel y Swyddog Datblygu fydd gwneud yn siŵr y bydd Aberystwyth yn tyfu i fod yn dref ac ardal lwyddiannus a deniadol i bobl ymweld, gweithio a byw ynddi ynghyd a darparu profiad pleserus i bawb." Os ydych am gysylltu gyda Gwennan rhif ffôn y swyddfa yw 01970 628 725 neu'r cyfeiriad e-bost yw enquiries@ menter-aberystwyth.org.uk
 |