BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Gigs Naws
Ebrill 2005
Owen Schiavone yn sôn am noson i'w chofio yn y Cŵps Aber yng nghwmni rhai o fandiau mwya' poblogaidd Cymru.

Mae gigs Naws wedi bod yn cael eu cynnal yn fisol ym mar lan staer Tafarn y Cŵps ers mis Hydref 2004 ac mae wedi rhoi llwyfan i artistiaid cerddorol Cymraeg yn Aberystwyth yn ogystal â rhoi arlwy o gigs cyson i ddilynwyr cerddoriaeth yr ardal.

Erbyn hyn mae'r noson wedi hen sefydlu ei hun fel noson i edrych ymlaen ati, ond roedd oedi eiddgar wedi bod ar gyfer Naws mis Mawrth oherwydd safon yr artistiaid oedd yn perfformio - roedd yn mynd i fod yn noson i'w chofio.

Gwilym Morus oedd y cyntaf i'r llwyfan i berfformio set o'i ganeuon gitâr acwstig swynol. Mae Gwilym yn brif ganwr y band Drymbago, ond roedd y gig yn rhan o daith lansio ei albwm unigol, Traffig.

Llwyddodd Gwilym i hawlio sylw'r gynulleidfa fawr o'r cychwyn cyntaf gyda'i lais unigryw a'r gerddoriaeth hudolus, yn wir cafodd wrandawiad hynod o dda heb smic o sŵn yn ystod y caneuon - dim ond cymeradwyaeth frwd rhyngddynt.

Wedi mwynhau perfformiad acwstig Gwilym Morus roedd y gynulleidfa yn barod am ychydig o roc, a'r band oedd yn ail ar y llwyfan i geisio cyflawni hynny oedd Winabego. Mae'r grŵp yma yn cynnwys cyn-aelodau o fandiau eraill ac yn eithaf profiadol er nad ydyn nhw wedi'u ffurfio ers yn hir.

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yn Aber ac yn sicr bu iddyn nhw ennyn llawer o gefnogaeth newydd o'r ymweliad hwn gyda pherfformiad gwych. Bu iddyn nhw berfformio set dda o'u caneuon ac roedd y gynulleidfa yn amlwg yn mwynhau eu cerddoriaeth gitâr gan orffen gyda'r gân adnabyddus i wrandawyr Radio Cymru, 'Unarddeg Dyn Lawr'.

Roedd y dorf mewn hwyliau da wedi gwrando ar Winabego ac yn edrych mlaen at brif eitem y noson a band sydd wedi hen arfer chwarae yn Aberystwyth erbyn hyn. Mae Mattoidz wedi mynd yn fwyfwy poblogaidd ers dod i'r amlwg yn dilyn ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2002.

Erbyn hyn maen nhw'n cael eu hadnabod fel un o fandiau byw gorau Cymru ac roedd hyn yn amlwg iawn yn y Cŵps. Cafwyd set ardderchog gan y bois o Grymych, yn llawn o'r egni a brwdfrydedd sy'n nodweddiadol o'r band. Roedd y band yn amlwg yn mwynhau, ac felly hefyd y gynulleidfa, y rhan fwyaf ohonynt ar eu traed yn ymuno â'r hwyl erbyn hyn.

Uchafbwynt y set ac o bosib y noson oedd yr encore gyda'r band yn bloeddio canu'r gân adnabyddus 'Sos Coch'. Felly dyna dynnu i derfyn gig Naws arall a phawb, yr artistiaid a'r dorf, i'w gweld wedi mwynhau'r noson yn fawr a phawb yn edrych ymlaen at y Naws canlynol.

Erthygl gan Owain Schiavone


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy