Mae menter Tref Trawsnewid Aberystwyth yn cynnal Digwyddiad y Gwanwyn dydd Sadwrn y 14eg o Fawrth, rhwng 2-4 yr hwyr yn Nhy Cyfarfod y Crynwyr, Maes Maelor, Penparcau. Bwriad y cynllun yw dod â phobl sydd eisiau tyfu llysiau and sydd heb ardd a'r rhai sydd â gardd ond nad ydynt yn ei defnyddio am ba bynnag reswm, ynghyd. Efallai nad does gan bobl amser, dim diddordeb neu efallai bod yr ardd yn rhy fawr iddyn nhw, neu efallai ei bod hi'n anodd ymdopi gyda'r gwaith. Yn nigwyddiad cyntaf Cyfnewid Gerddi mis Hydref diwethaf, llwyddwyd i baru 22 o bobl. Dywedodd rhai a fynychodd y digwyddiad: "Mae'n ffordd wych o ddod o hyd i rywun i edrych ar of fy ngardd, well gen i weld rhywun yn cael budd ohono." A hefyd: "Rwyf wedi dod o hyd i rywun fydd yn gadael i mi ddefnyddio eu gardd, mi fydd yn berffaith gan eu bod yn byw i fyny'r ffordd!" Yn y digwyddiad paru ym Mhenparcau bydd arbenigwyr lleol yno i ateb cwestiynau ar arddio yn organig, sut i ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd, a sut i wneud y defnydd gorau o dwnelau polythen a thyfu ar gyfer y farchnad leol. Bydd gweithgareddau ar gyfer plant, cystadleuaeth gyda gwobrau a stondin "Enwch y llysieuyn" i wneud i chi feddwl! Gallwch ddarganfod sut i reoli plâu a chwyn mewn modd organig a chlywed awgrymiadau garddio pobl eraill. Bydd byrbrydau blasus ar gael gan y cogydd a'r awdur Elisabeth Luard, a chyfle i drafod dros baned. Mae Tref Trawsnewid Aberystwyth yn ddiolchgar i'w cyllidwyr, Amgylchedd Cymru, am eu cymorth, a hefyd yn ddiolchgar i Ymlaen Ceredigion a Chymunedau'n Gyntaf am eu cefnogaeth.
Am fwy o wybodaeth croeso i chi gysyllti â ChloeGriffiths chloe.ena@hotmail.co.uk
 |