Ond yn ddiweddar ymddangosodd faner nad oedd yn gysylltiedig ag unrhyw wlad, yn Nhraeth y De, yn ymyl y caban hufen iâ. Na, nid caban Dai Hufen Iâ. Cyhoeddwyd bod y traeth i chwifio Baner Las yn ystod misoedd yr haf. Yr anrhydedd uchaf a ddyfernir i draeth. Enillwyd y faner oherwydd ansawdd uchel y dwr a glendid y traeth yn gyffredinol. Y mae'r Faner Las yn fesur rhyngwladol o lendid traethau. Sefydlwyd y cynllun ym 1987. Y mae'r cynllun yn mesur safon y darpariadau a geir i'r anabi, y nifer o finiau sbwriel a geir, a glendid y dwr yn ôl safonau uchel a ddiffinir gan gyfraith Ewrop. Methodd Traeth y Gogledd y prawf oherwydd ansawdd y dwr a safon y carthffosydd. Rhwng Medi a Mawrth 2004 bwriedir gwario 4 miliwn o bunnoedd i wella y sefyllfa yno. Y mae Traeth y De neu Y Ro Fawr yn ymestyn o drwyn y Castell a safle cofeb y Rhyfel hyd at y lanfa bren yn ymyl yr aber. Bu'r traeth yn amddiffyn yr harbwr cul a chyfyng am flynyddoedd. Rhwng pont y dref a Phenhuwcyn, yn agos i'r lle yr una y ddwy afon, Rheidol ac Ystwyth, yr oedd tuag ugain erw o dir yn cael eu gorchuddio gan y llanw. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg defnyddiwyd y traeth gan adeiladwyr llongau. Adeiladwyd y tai yn y Ro Fawr yn 1894. Heddiw nid y Ro Fawr sy'n amddiffyn yr harbwr a'r marina ond y promenâd a'r pier pren. Adeiladwyd yr estyniad i'r promenâd ar hyd y Brifysgol a rownd trwyn y castell yn ystod y blynyddoedd 1901-03 am £16,000. Adeiladwyd y gweddill hyd at y pier pren yn 1929-31 ar gost o £12,000. Gwelir olion pwll nofio gyferbyn â thrwyn y castell. Heddiw, yn ogystal â nofio, ceir pysgota o'r traeth a brigdonni yn ymyl ceg yr harbwr. Fel dywed y bardd: "Môr ar draethau'n lledi ei groeso, Haul a phlant yn chwerthin ynddo, Canu awel ar y glannau, Canu'r dyfnder dros y tonnau." AED
 |