BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Llun o aelodau Aelwyd AbracadabraLlwyddiant i Aelwyd Newydd
Mai 2007
Aelwyd newydd ei ffurfio yn dod yn gyntaf yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Llanbedr Pont Steffan ar y parti deulais o dan 14 oed.
Llongyfarchiadau i'r Aelwyd sydd newydd gael ei ffurfio ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 yn Aberystwyth - Abercadabra (Uwch Adran yr Urdd Bro Aberystwyth) ar ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Llanbedr Pont Steffan ar y parti deulais o dan 14 oed. Dyma'r tro cyntaf i'r parti (a hyfforddwyd gan Mari Rhian Owen a Jeremy Turner) gystadlu, ac maent wrth eu bodd gyda'r wobr!

Bydd y parti yn mynd ymlaen yn awr i Eisteddfod Geendlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin ym mis Mai. Daeth yr un parti yn ail yn y gystadleuaeth parti llefaru (fe'u hyfforddwyd gan Non Walters a Gwenan Creunant) a byddant hwy hefyd yn mynd ymlaen i Gaerfyrddin.

Cafwyd llwyddiant hefyd i'r aelwyd yng nghystadleuaeth y ddeuawd, lle cafodd Megan Seira a Megan Haf y wobr gyntaf. Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor greodd yr Uwch Adran, Mr Brian Davies:

Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau. Hwn oedd y tro cyntaf i ni gystadlu, ac fe lwyddon ni mewn cystadlaethau o safon uchel! Ond nid cael ei sefydlu er mwyn cystadlu yn yr Urdd a wnaeth yr Uwch Adran; yn hytrach, rydym wedi trefnu pob math o weithgareddau Cymraeg i'r aelodau, ac ar ôl yr Eisteddfod, yn ystod nosweithiau'r haf, gobeithiwn dreulio mwy o amser yn gwneud gweithgareddau awyr agored. Gobeithiwn yn fawr y bydd mwy o aelodau am ymuno â ni flwyddyn nesaf."

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Aelwyd Abercadabra, cysylltwch gyda Brian Davies 01970 617351 / 07794 010 831 neu Jeremy Turner 01970 636579 / 07791 951244.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


Cyfrannwch i'r dudalen hon! 0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy