Meddai Rhiannon Lewis, Cadeirydd y mudiad, Mae'r Urdd yn fudiad allweddol yn y Gymru gyfoes gyda 50,000 o aelodau ac yn agos i 200 o staff. Eisoes profodd Efa ei gallu fel Cyfarwyddwr Datblygu lle bu'n llwyddiannus iawn i ddenu nawdd i'r mudiad. Profodd hefyd ei gallu i arwain prosiectau penodol ac i gydweithio'n agos gyda staff, aelodau'r mudiad, gwirfoddolwyr a phartneriaid o'r sector cyhoeddus a phreifat. Rwyn hyderus y bydd penodiad Efa yn un fydd yn sicrhau parhau a llwyddiant y mudiad ac yn ein galluogi i symud ymlaen yn egniol. Dywedodd Efa Gruffudd Jones, 'Rwy'n edrych ymlaen at yr her sydd o'n blaen. Ry'n ni'n wynebu cyfnod cyffrous yn dilyn cyhoeddi laith Pawb, sef cynllun gweithredu'r Cynulliad ar gyfer creu Cymru ddwyieithog. Rwyn benderfynol y bydd yr Urdd yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o'i wireddu. Ein nod fydd sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn gallu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau atyniadol sy'n eu galluogi i ddatblygu fel unigolion a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n ei chyfri'n anrhydedd fy mod i'n cael y cyfle i arwain y gwaith hwn. Bydd Efa yn dechrau ar ei swydd fel Prif Weithredwr yn gynnar yn 2004.
 |