| Rydw i'n sgwennu'r pwt yma i'r Angor gyda balchder mawr gan wybod fod Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2006 wedi ei hennill gan Rhys Taylor o Aberystwyth. Mae'n siŵr i amryw ohonoch ddilyn y gystadleuaeth ar y teledu rai wythnosau yn ôl - bob nos canolbwyntiwyd ar un o'r wyth person oedd wedi cyrraedd y brig yn eu cystadleuaeth arbenigol o dan 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd eleni - canu, dawnsio, canu offeryn cerdd, llefaru. Uchafbwynt yr wythnos oedd gwrando a gweld y gystadleuaeth derfynol ar y teledu nos Sul. Bu hen ddyfalu rhwng y beirniaid swyddogol (ac answyddogol!) am tuag awr wedi i'r cystadlu ddod i ben. O'r diwedd dyma'r beirniad Daniel Evans yn cyhoeddi mai Rhys oedd yn fuddugol. Cyflwynwyd medal a siec o £4,000 iddo gan Bryn' Terfel ei hun. I roi cefndir y gystadleuaeth i chi, mae'n agored i enillwyr yr wyth brif gystadleuaeth i ieuenctid rhwng 18 a 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Rhys oedd enillydd y gystadleuaeth i offerynwyr (unrhyw offeryn). Cynhaliwyd Dosbarthiadau Meistr i'r wyth enillydd dros benwythnos yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd - pob unigolyn yn cae1 4 neu 5 o wersi o awr yr un gan y Meistri yn eu maes eu hunain. Ffrancwr o glarinetydd oedd Meistr Rhys - clarinetydd proffesiynol sy'n chwarae clarinet bas yng Ngherddorfa Genedlaethol Cymru. Fe dderbyniodd Rhys ganmoliaeth fawr am ei dechneg ar y clarinet gan yr arbenigwr, ac yn ôl Rhys, bu'r gwersi o fudd mawr iddo. Wedi'r penwythnos gyda'r Meistri, y tro nesaf y cyfarfu'r wyth dethol oedd yn y gystadleuaeth fawr ei hun yn' T'heatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Cyngerdd oedd y noson - y gynulleidfa'n mwynhau gwrando a gweld yr wyth person ifanc yn arddangos eu talentau amrywiol. Fe chwaraeodd Rhys dri darn cyferbyniol. Ei gyfeilydd oedd Lowri Evans o Benrhyncoch. Roedd Rhys a Lowri'n deall ei gilydd i'r dim gan fod Lowri wedi cyfeilio i Rhys droeon mewn cystadlaethau a pherfformiadau ers eu dyddiau ysgol ym Mhenweddig.
Bu'n wefr fawr iawn i mi'n bersonol i glywed y beirniad yn cyhoeddi mai enillydd ysgoloriaeth 2006 oedd Rhys Taylor. Yn wir, fe ddaeth dagrau i'm llygaid wrth feddwl am falchder ei dad, Mike (cyn athro yn Ysgol Penglais), a pha mor falch y byddai ei fam, y diweddar Non, wedi bod ohono (fe gofiwch fel y byddai Nona a Marlene Davies yn canu deuawdau yn y chwedegau). Dechreuodd Rhys chwarae'r clarinet pan oedd e'n 9 oed ac fe'i haddysgwyd ef gan Brian Sansbury a Clarissa Lewis. Roedd yn glir fod ganddo ddawn arbennig o'r dechrau. Chwaraeodd gydag amryw o gerddorfeydd ieuenctid (6 blynedd gyda Cherddorfa Ieuenctid Cymru) cyn mynd i'r coleg. Bu'n enillydd cyson yn Eisteddfod yr Urdd ac yn y flwyddyn 2000 enillodd gystadleuaeth offerynnol o dan 25 yn Eisteddfod Llangollen, ac yntau ond yn 17 oed. Mae'n 24 erbyn hyn ac wedi graddio o Goleg Cerdd Brenhinol Manceinion ar ôl dilyn cwrs o bedair blynedd. Ei freuddwyd yw gwneud bywoliaeth o chwarae'n broffesiynol. Mae'n fyd caled ond rhwydd hynt i'r dyn ifanc dawnus hwn.
Ydyw, mae enw Rhys Taylor yr un mor gyfarwydd i Bryn Terfel ag ydyw enw Bryn Terfel i Rhys Taylor erbyn hyn - dyna fraint! Margaret Maddock
 |