Un cyfarwydd iawn i liaws o ddarllenwyr Yr Angor yw'r Tad John Fitzgerald, a mawr golled i lawer ohonynt olygodd ei ymadawiad i Lanelli y llynedd. Yr oedd ei ymadawiad, yr un fath a'i ddyfodiad cyntaf i Aberystwyth yn 1940, yng nghlwm wrth hanes ymwneud Urdd y Carmeliaid a Chymru. Yn 1936, dan arweiniad ysbrydoledig y Tad Malachi Lynch, daeth y Carmeliaid i Gastell Brychan. Gweledigaeth y Tad Malachi, breuddwyd na chafodd ei llawn wireddu, oedd meithrin yn Aberystwyth gymuned o Garmeliaid Gymraeg eu hiaith. Yr athro Cymraeg yn yr ysgol i ddarparu offeiriaid yng Nghastell Brychan oedd Saunders Lewis. Un o'r disgyblion cynnar oedd yr hogyn a ddaeth wedyn mor gyfarwydd inni fel y Tad John Fitzgerald. Wedi iddo dderbyn ei addysg uwch yn Nulyn, yn Rhufain ac yng Nghaergrawnt, a chael ei ordeinio'n offeiriad yn 1951, fe ddychwelodd Y Tad John i Aberystwyth fel caplan i fyfyrwyr Coleg y Brifysgolyn 1964. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Athroniaeth yn 1970 a bu'n ddarlithydd gweithgar a phoblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr (darlithiai hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg) hyd ei ymddeoliad yn 1993. Parhaodd yn gaplan i'r myfyrwyr Catholig tan 2004. Ond nid dyn y Coleg yn unig oedd yTad John. Tebyg nad oes yr un offeiriad Pabyddol yng Nghymru syn fwy adnabyddus i offeiriaid a gweinidogion enwadau eraill. Gyfrannodd ef yn fawr i'r ysbryd eciwmenaidd a ddaeth mor amlwg yn nhre Aberystwyth yn y degawdau diwethaf, a bu'n llefarydd cyson ar y cyfryngau Gymraeg ar faterion yn ymwneud a Chatholigiaeth ac a chrefydd yn gyffredinol. I rai, y mae'n adnabyddus fel awdur cyfrol nodedig o farddoniaeth; i eraill efallai fel cyfieithydd Aristotlys i'r Gymraeg; i eraill fel un o ffyddloniaid Caffi Morgan; i eraill fel un o'r bobl brin a feistrolodd yr iaith Fasgeg; ac i lawer iawn fel hen gyfaill doeth ac annwyl. Tristwch i bawb oedd gweld Urdd y Carmeliaid yn cilio o Aberystwyth, yn ddisymwth braidd, yn 2004. Teimlodd rhai o'r hen gyfeillion mai braf o beth fyddai medru trefnu rhyw noson o deyrnged i'r Tad John. Yn awr, ar nos Iau, 3 Tachwedd am 7 o'r gloch ym Morlan cawn edrych ymlaen at ddathliad arbennig. Y noson honno fe berfformir gan dalentau lleol ddrama fer newydd sbon wedi ei sgrifennu ar gyfer yr achlysur: Y Cwrwgl, o waith William Mahon. Deallir ei bod hi'n ddoniol ac yn llwyddo i gysylltu yn y modd rhyfeddaf Iwerddon a Chymru a Mynydd Carmel ac Athen a Gwlad y Basg. Bydd y noson gofiadwy hon yn agored i bawb.
 |