Bu'r syclamen, y winter pansy (fioled fraith y gaeaf), blodau'r gwynt (anemone) a grug sy'n blodeuo yn y gaeaf yn ein Ilonni yn ystod y misoedd diwethaf, ac efallai y byddai'n syniad da sicrhau ein bod yn plannu rhagor o'u tebyg y flwyddyn nesa. Torrwch bennau'r grug a siswrn gardd, wedi iddynt flodeuo, er mwyn cadw'r llwyn yn daclus, hefyd tociwch y clematis marw megis jackmanii hyd at ddau flaguryn o'r ddaear. Mae'n bryd hefyd i fwydo'r coed aeron, - y mafon, y mwyarafan (loganberries) yr eirin Mair ar mwyar duon, tua 4 owns i bob planhigyn. Fe ellir godi a rhannu rhiwbob o nawr tan ddiwedd Mawrth. Rhai i'w cymeradwyo yw Hawke's Champagne, Sutton a Timperley Early. Dyma rai awgrymiadau pellach:- Bwydwch azalea a camelia gyda gwaddodion te wrth eu gwraidd, neu ddwy lond llwy fwrdd o finegr gwyn mewn dau beint o ddŵr. I dyfu cennin da rhowch ychydig o gwrw cryf iddynt, (neu mae huddygl lawn cystal!). Mae'n bwysig eich bod yn glanhau'r tŷ gwydr, y potiau a'r offer garddio cyn y gwanwyn.
 |