Sut mae mesur ymlyniad rhywun wrth le arbennig? Ai wrth hel atgofion? Y demtasiwn felly yw ymgolli yn yr hanes cynnar; gwell dechrau heddiw. Bob tro y deuaf i olwg y prom a mynd ar hyd glan y môr byddaf yn rhyfeddu at harddwch y bae; weithiau medraf weld yr ochr draw, arfordir Aberdyfi a Thywyn; dros arall cael cip ar fryniau Llyn, a holaf fy hun, a ydw i'n gwerthfawrogi mod i'n cael y fath gynefin? Sawl gwaith y cefais fy ngalw at y drws ffrynt ddiwedd y prynhawn i ryfeddu at liwiau'r machlud yr ochr draw i'r castell? Pan oedd Tom Ellis yn fyfyriwr yn y Coleg yn 1876 mae'n cofnodi gwefr y machlud yn ei ddyddiadur.
Daeth fy ngar i fyw i Aberystwyth oherwydd mai yno yr oedd y llyfrgell Genedlaethol, a dyna lle yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i lyfrau. Fo a'm rhoes ar drywydd yr ymchwil i hanes `Y Personiaid llengar'. Cofiaf y Prifathro Derec Llwyd Morgan yn fy rhybuddio `... Rhaid i chi roi'r gorau i waith ymchwil a dechrau sgrifennu'. Fel y gŵyr pob awdur mae'r ymchwil yn llawer mwy pleserus na'r cyfansoddi. Trwy fod yn rhieni y daethom i gymryd rhan ym mywyd yr Ysgol Gymraeg yn Ffordd Alexandra, ac yna Ysgol Ramadeg Ardwyn a'r Gymdeithas Rhieni. Dyna gyfnod yr Education First. A oes rhywun yn ei gofio bellach?
I Ysgol Sul `y Comins', Comins Coch yr aeth y plant a minnau; chwiorydd Cymau Bach, Mary ac Elsie Williams oedd yn gyfrifol amdani, a Mary Beynon Davies yn athrawes tan gamp. Dilynom faes llafur y pwnc, a pherfformiad nifer o `ddramâu' Nadolig gwreiddiol iawn! Bellach i Eglwys y Santes Fair y bydd fy mab a minnau'n mynd, gyda'i chynulleidfa gartrefol a'i hysgol Sul llewyrchus. Prin y byddai neb yn dirnad mai ail-iaith yw'r Gymraeg i'r Rheithor, y Parch Ganon Stuart Bell na chwaith y Parch Andy Herrick.
Af allan i neges bob bore, gan fynychu'r un siopau a gwenu ar yr un bobl. Mi fu yna adeg, tua diwedd mis Medi, a'r ymwelwyr wedi mynd adre a chyn i'r myfyrwyr ddychwelyd, pan deimlem fod y dref yn eiddo i'r Cardis, ond ddim mwyach. Diflannodd y rhan fwyaf o'r siopau teuluol, prinhau mae'r llefydd parcio; mae pobl yn gwisgo'n llawer mwy anffurfiol, a chardotwyr ar bob stryd. Fel yna y mae hi ym mhob man, debyg, a bydd rhywrai, rhywdro'n hiraethu am y dyddiau hyn!
 |