Ym mis Ebrill 2004 dechreuwyd cynllun peilot dwy flynedd i ddatblygu cwmniau bwyd cydweithredol yng Nghymru, fel rhan o raglen weithgaredd Llywodraeth y Cynlluniad i gynyddu'r nifer o ffrwythau a llysiau a fwyteir yng Nghymru. Prif ffocws y cynllun peilot oedd cyflenwi cymaint ag oedd yn bosib o lysiau a ffrwythau lleol a fforddiadwy ar gyfer cymunedau dan anfantais a hynny drwy ddatblygu rhwydweithiau dosbarthu bwyd lleol a chynaliadwy. Sefydlwyd cwmni bwyd cydweithredol ym Mhenparcau ym mis Mawrth 2009. Mae gwirfoddolwyr yn cymryd archebion unwaith yr wythnos ac wedyn yn rhoi'r archeb, gyda'r cyfanswm arian sydd wedi ei gasglu, i'r cyfanwerthwr. Yr wythnos ganlynol bydd y cyfanwerthwr yn cludo'r archeb I'r cwmni bwyd. Yna bydd y gwirfoddolwyr yn yn rhannu'r cynnyrch yn gyfartal cyn i'r cwsmeriaid gasglu eu harcheb. Pan mae'r cwsmer yn casglu'r archeb mae modd talu am archeb yr wythnos ganlynol a bydd yr holl broses yn ail-ddechrau unwaith eto. Mae'n brosiect llwyddianus iawn ac mae cynlluniau i ddechrau cwmni bwyd cydweithredol yn Nhrefechan yn y dyfodol. Am wybodaeth, ffoniwch Brenda Haines, Swyddog Datblygu Cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf, 01970 613235/01970 630459.
 |