"Sypreis gwych oedd clywed bod fy mrawd wedi ennill taith o amgylch swyddfeydd newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth.. Roedd Aled wedi llenwi holiadur yn ystod ffair gyrfaoedd yn yr Ysgol ac wedi llwyddo i ennill. Felly ar y 9 fed o Ebrill, aeth Aled, Dad a mi lawr i Rodfa'r Parc er mwyn cael gweld yr adeilad newydd. Cawsom ein tywys gan Seb Huckson o'r Cynulliad ac Alan Holdsworth o gwmni Carillion, yng nghwmni Vanessa Brookes a Deian Creunant o Lywodraeth y Cynulliad, ac rwy'n siŵr byddai pawb yn cytuno ein bod wedi cael taith benigamp! Fel disgybl yn Ysgol Penweddig, roeddwn wedi sylwi ar y broses o adeiladu o'r cychwyn cyntaf, felly roedd hi'n braf cael weld y swyddfa yn ei chyfanrwydd. Mae'r tu allan yn edrych yn hynod o drawiadol gyda gwydr a phren yn cyfuno i greu adeilad modern iawn. Mae'r un teimlad yn cael ei adlewyrchu tu fewn hefyd gyda gwydr a golau ymhobman. Roeddem oll yn hoffi'r syniad a geir yn y dderbynfa o gaffi i gael coffi neu bryd o fwyd, a mannau i gyfathrebu â staff y Cynulliad er mwyn datrys problemau. Mae'n syniad hollol newydd sy'n integreiddio'r Cynulliad â'r gymuned leol. Mae cynllun yr adeilad yn hynod o dda i'r amgylchfyd. Mae'r ffenestri'n agor ac yn cau'n awtomatig pan mae'r tymheredd yn newid er mwyn cadw cydbwysedd yno, ac mae siap unigryw'r to yn gwneud hyn hefyd. Mae'r holl ddŵr glaw hefyd yn cael ei ailgylchu gan wneud yr adeilad yma'n un gwyrdd iawn. Mae'r amrediad o dechnoleg newydd sydd yno hefyd fel rhywbeth allan o Doctor Who! Roeddem ni'n tri'n hollol gegrwth wrth gael ein tywys o gwmpas. Hoffem ddiolch i Lywodraeth y Cynulliad am y cyfle bythgofiadwy hwn, ac yn enwedig i bawb a fu'n ein tywys ni o gwmpas. Edrychaf 'mlaen at gael coffi yn y caffi ar ô1 iddo agor!"
 |