| Y telynor ifanc Rhodri Davies, a anwyd ac a fagwyd yn Aberystwyth yw cerddor Trem, yr ail gryno ddisg, a gyhoeddwyd gan Confront. Mae Rhodri wedi bod yn canu'r delyn er pan oedd yn saith oed ac wedi cyfeilio i'r gantores Charlotte Church ers dechrau ei gyrfa, ond nid cerddoriaeth draddodiadol y delyn sydd ganddo yn y ddisg yma. Yn ei eiriau ei hun "cerfluno swn" y mae Rhodri yn Trem, ac yn wir, fe fu'n astudio celfyddyd cyn dilyn cwrs gradd cerddoriaeth yn Sheffield. Mae'n llwyddo i greu synau cwbl annisgwyl wrth ddefnyddio technegau arbrofol. Mewn un darn mae'n chwarae'r delyn gan ddefnyddio bwa soddgrwth, dro arall mae'n gosod polystyrene rhwng y tannau i gynhyrchu swn caletach. Nid dyma'r swn rydym wedi arfer ei glywed o'r delyn! Yn ddiweddar gwelwyd adolygiad o Trem yn y Sunday Times a da oedd gweld ei fod yn cael y clod uchaf, sef tair seren. Mae'n siwr y bydd tipyn o drafod am y CD yma, ac fe fydd Rhodri wrth ei fodd, gan mai ei nod wrth greu cerddoriaeth, medde fe, yw gwneud i bobl feddwl. Ym mis Gorffennaf bydd Rhodri'n mynd ar daith i Siapan. Ein dymuniadau gorau iddo.
 |