BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Alan WoodYmweliad â Stryd Downing
Ebrill 2007
Aeth myfyriwr doethuriaeth sydd yn astudio `tywydd y gofod' ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth i dderbyniad gyda'r Prif Weinidog, Tony Blair, yn 10 Stryd Downing ddydd Llun 12 Mawrth.

Mae Alan Wood, sy'n byw yn Llanbadarn, yn aelod o'r grŵp ymchwil Ffiseg y Sustem Solar sydd yn fawr iawn ei barch ac sydd yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol yn Aberystwyth. Cydnabyddiaeth oedd y gwahoddiad "o gyfraniad gwyddonwyr ifainc, peirianwyr ac ymchwilwyr i ddyfodol y Deyrnas Gyfunol".

Mae gwaith ymchwil Alan yn canolbwyntio ar ardaloedd mawr o blasma tra-dwys, a sut maent yn ymffurfio, yn symud ac yn esblygu yn yr atmosffer uwchben Pegwn y De a Phegwn y Gogledd. Yn aml maent yn ymestyn dros filoedd o gilomedrau ac yn gallu amharu ar signalau lloerennau megis y rhai sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer offer lleoli byd-eang (GPS).

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, derbyniodd Alan radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg a Ffiseg y Planedau a'r Gofod o Aberystwyth yn 2002. Cafodd ei ysbrydoli i ddychwelyd i'r byd academaidd wedi cyfnod yn gweithio fel gohebydd ar orsaf radio leol Star 107 yng Nghaerloyw, ar ôl treulio 6 mis olaf ei gwrs gradd yn yr Arctig yn astudio'r uwch atmosffer uwchben Pegwn y Gogledd.

Cyn teithio i Lundain dywedodd Alan: "Mae'n fraint cael derbyn gwahoddiad i dderbyniad sydd yn cael ei gynnal gan y Prif Weinidog. Mae ymchwil gwyddonol yn allweddol er mwyn gyrru datblygiadau newydd ym mhob rhan o'r wlad ac mae'n dda gweld y llywodraeth yn cefnogi hyn yn y ffordd yma."

"Mae Grŵp Ffiseg Sustem Solar Aberystwyth yn gweithio ar bynciau sylfaenol ffiseg fodern - sut mae'r Haul, a 'thywydd y gofod' sydd yn tarddu yno, yn effeithio ar y Ddaear."

Y Grŵp hwn yw un o'r canolfannau mwyaf blaengar yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio effeithiau'r tywydd solar ar y Ddaear ac, o dan gyfarwyddiaeth yr Athro Manuel Grande, mae'n chwarae rhan flaenllaw mewn nifer o deithiau cyfredol i'r gofod.

Mae'r offeryn Aspera 4 ar daith Venus Express yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (AOE) yn galluogi'r grŵp i astudio amgylchedd dwys y blaned Gwener. Yr Athro Grande yw'r prif ymchwilydd ar D-CIXS, sbectromedr pelydr¬X ar long ofod Smart-i yr AOE a laniodd ar y lleuad yn 2006.

Mae Dr Andy Breen yn gyd ymchwilydd ar SECCI, offer telesgopig sydd yn rhan o long ofod Stereo NASA. Disgwylir i'r daith hon ddarparu'r lluniau 3-D agos cyntaf o'r Haul.

Llongyfarchiadau i Alan a'r Grŵp ar eu llwyddiannau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy