| Cafodd y pentref dychmygol hwn, yr enwocaf yng Nghymru, ei anfarwoli diolch i ddrama Dylan Thomas, Under Milk Wood, a ddarlledwyd gyntaf hanner can mlynedd yn ôl, ym 1954. Dengys y map, a dynnwyd a llaw, sut y gwelodd yr awdur ei hun fro ei gymeriadau cyfarwydd ond ecsentrig. Parhau y mae'r ddadl am sail Llareggub (er gwaethaf y naws Gymraeg, 'bugger all' tu chwith yw'r enw). Dywed rhai mai drych o Dalacham, cartref Dylan Thomas am flynyddoedd yw Llareggub, ond cred eraill mai'r Cei Newydd, pentref glan môr yng Ngheredigion, a ysbrydolodd y bardd, a fu'n aros yno yn ogystal. Mae'r map unigryw hwn yn cynnig tystiolaeth bwysig am ddatblygiad syniadau Dylan Thomas am y pentref a'i drigolion lliwgar.Ar y map nododd Thomas yn ei ysgrifen fach, fachgennaidd, gartrefi Polly Garter, Nogood Boyo a Lord Cut Glass, oll yn gymdogion yn Donkey Street, a Mr a Mrs Waldo yn Cockle Street sy'n rhedeg yngyfochrog. Ar ben y strydoedd hyn, gwelir y mor a braslun o gwch hwylio, tra bod y capel yn sefyll ym mhen draw Coronation Street a'r ysgol a neuadd y dref y pen arall. 'Mae hi'n newyddion da dros ben fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi llwyddo i brynu ar gyfer y genedl y grwp pwysig hwn o bapurau sydd heb gael llawer o sylw o'r blaen', meddai Dr Ceridwen Lloyd Morgan, Pennaeth yr Uned Llawysgrifau yn y Llyfrgell. 'Mi fyddan nhw o ddiddordeb mawr i bawb, nid i arbenigwyr yn unig.' Nododd y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh, 'Mae'r archif ddiweddaraf yma yn ased i'r genedl ac yn rhoi golwg pellach i ni ar fywyd un o'n llenorion mwyaf. Mae apel Dylan Thomas mor fyw ag erioed ac mae'r lansiad diweddar o wobr lenyddol yn ei enw yn profi mor gryf yw ei ddylanwad a'i berthnasedd.' Ymhlith y dogfennau eraill yn yr archif, sy'n cynnig cipdrem ar fywyd y bardd, ceir ei basport a llythyrau oddi wrth ei gyfeillion yn America cyn iddo gychwyn yno ar ei daith olaf. Yn nodiadau bras Dylan ar gefn amlenni gwelir enwau ceffylau rasio ochr yn ochr a ffisig at y peswch. Ceir son hefyd am ei farwolaeth, gyda rhai o'r papurau'n ymwneud a'r trefniadau i ddychwelyd ei gorff i'w gladdu yng Nghymru, gan gynnwys copi o'i dystysgrif marwolaeth a bil yr ymgymerwr Americanaidd.
 |