Cyfleusterau gwell "Canolfan tebyg i Quackers (Rhaeadr) neu Hwylfan (Caernarfon) gyda gweithgareddau to allan fel Llain neu Langrannog." "Mwy o siopau annibynnol yn y dref.", "Denu M&S", "Bwyty gyda lie i blant chwarae yn yr ardd.", "Gwesty moethus", "Troi'r bandstand yn fwyty gwydr hardd", "Mwy o addurniadau Nadolig sydd yn dweud Nadolig Llawen.", "Agor festri un o'r capeli er mwyn bwydo pobl sy'n ddi-gartref neu ar
gyrion cymdeithas", "Sinema 3D yn y dre", "Gwasanaeth tren gwell a chyflymach". Glendid "Gweld y traeth yn cael ei lanhau'n ddyddiol o sbwriel a gwymon (o leiaf rhwng y Pasg a mis Hydref), a'r biniau ar y prom yn cael eu gwagu yn amlach o lawer yn yr haf - ar Wyliau Banc maent yn gorlifo ac yn rhoi'r argraff nad ydym yn poeni o gwbl am wedd y dre". "Gweld peiriannau a phobl yn glanhau palmantydd y dre o fore gwyn tan nos fel a wneir ar y cyfandir" "Mwy o ofal i adeiladau'r dre - o edrych yn uwch na lefel y stryd mae rhai strydoedd yn edrych yn ofnadwy" "Byddai yn dda petai bobl yn stopio bwydo'r gwylanod o amgylch y dref. Mae'r adar hyn yn gwneud annibendod llwyr wrth iddynt rwygo'r bagiau sbwriel Ac efallai os na fyddai'r cyfle iddynt gael y bwyd hwn, byddent yn medru mynd yn ô1 yw cynefin - sef y môr i gael eu bwyd". Cymreictod "Mwy o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon i blant drwy'r Gymraeg." "Mwy o arwyddion Cymraeg gan y siopau i wella tirlun ieithyddol y dref." Mae'n bosib i ni ein hunain sicrhau bod Aberystwyth yn dre Gymreiciach drwy ddefnyddio'r Gymraeg bob cyfle phosib, ond rhaid hefyd i sefydliadau a busnesau gefnogi'r iaith. Mae'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn hyn oll ac yn gwneud gwaith da wrth annog dysgwyr newydd a cheisio cymhathu dysgwyr a siaradwyr rhugl - mae Côr CYD sy'n cwrdd bob nos Lun yn engraifft, dda o hyn ar waith.
 |