BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Angor
Alison Cann gyda Cliff Pope a Rob EdwardsCarteref Newydd CRAFT
Tachwedd 2004
Yn rhifyn Mai 2002 o'r Angor soniwyd am weledigaeth CRAFT(Ceredigion RecyclingAnd Furnishing Team) i addasu yr hen blatfforrn yn yr Orsaf ar gyfer dibenion ailgylchu.

O dan y cynllun 'Dim Pen y Daith', ar gost o £2.8m, estynnir y safle a'i droi yn swyddfeydd a siop a chodi adeilad newydd fel gweithdy ar gyfer gwaith coed a thrydan. Gobeithir orffen y gwaith erbyn yr haf nesaf.

I gwrdd a'r gost fe gafodd CRAFT gymorth oddi wrth Gronfa Datblygiadau Rhanbarthol Ewrop, y Cynulliad Cenedlaethol, WDA, Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd, Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Fawr y Lotri. Mae Allison Cann, Swyddog Datblygu CRAFT, yn diolch i'r Cwmnlau lleol a'r Ganolfan Technoleg Amgen hefyd am eu helpu i wireddu amcanion yr elusen.
Sefydlwyd CRAFT ddeng mlynedd yn ôl; Mae'n trwsio celfi, beiciau ac offer trydanol i bobl ai incwm isel ac yn gwerthu deunydd sydd dros ben i godi incwm. DywedoddCliffordd Pope, y swyddog cyllid, ei bod yn bwysig bod pobl yn defnyddio'r elusen trwy roi iddi eitemau nad oes eu hangen amyn nhw ond a allai fod o ddefnydd i eraill. Dywedodd Andy Rendell, cyd- drefnydd y cwmni eu bod yn rhoi gwaith, hyfforddiant, swyddi a chyfleoedd gwirfoddol ac yn cydweithio a'r Ganolfan Waith, Coleg Ceredigion a'r Brifysgol.
Diolchwn i bawb sy'n gweithio gyda CRAFT am eu gwaith clodwiw.
Galwch mewn i weld beth sydd ganddynt, neu ffoniwch 626532 am ragor o wybodaeth.

Diolch i'r Cyngor

Wrth roi sylw i'r elusen CRAFT yn y rhifyn yma o'r Angor, mae'n iawn ein bod hefyd yn dangos ein gwerthfawrogiad o waith y Cyngor am iddynt ddarparu safle mor gyfleus yn Glan-yr-Afon er mwyn ail- gylchu ein gwastraff ac ar yr un pryd diogelu ein hamgylchfyd. Oes nad oes modd i chi fynd i'r safle, yna holwch y Cyngor am beth i'w wneud a'ch sborion.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy