Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i nifer fawr o weithiau celf. Ers mis Medi mae'r Llyfrgell a'i chasgliad wedi bod yn ysbrydoli'r artist o Faldwyn, Christine Mills, i greu corff newydd o waith - gyda help rhai o blant ysgol ardal Aberystwyth. Mewn cydweithrediad ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ac o dan nawdd Cywaith Cymru, penodwyd Christine Mills fel artist preswyl cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dechreuodd
y preswyliad ym mis Medi a bydd yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2006. Mae Christine Mills yn rhannu ei hamser rhwng gweithio gyda'r plant yn yr ysgol, a'i gweithdy yn y Llyfrgell. Mae'n gobeithio datblygu syniadau creadigol yn seiliedig ar waith a chasgliadau amrywiol y Llyfrgell, gan roi'r cyfle i ddisgyblion
i ddod i arfer ag arlunydd yn gweithio yn eu plith fel rhan naturiol o fywyd yr ysgol. Trwy gyd-weithio'n agos â'r arlunydd, bydd y plant yn medru cyflwyno sylwadau a syniadau i ddylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiad y gwaith. Un o Langadfan, Sir Drefaldwyn yw Christine ac mae'n artist cyfoes sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda phlant
a phobl ifanc. Roedd hi'n swyddog addysg yn Oriel Davies Drenewydd ac yn ddarlithydd rhan amser mewn nifer o golegau celf. Yn ddiweddar mae wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cymunedol, yn ogystal â dangos ei gwaith mewn arddangosfeydd mawr eu bri yng Nghymru ac yn Iwerddon. "Rwyf wrth fy modd yn cael gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae maint y lle yn anhygoel heb sôn am gyfoeth y casgliadau. Mae'n brosiect cyffrous iawn i mi, ac i'r plant ysgol hefyd, dwi'n gobeithio," meddai Christine. Mae Rhodri Morgan, sydd wedi cydweithio'n agos â Christine ar ran y Llyfrgell, hefyd yn gweld y prosiect yn ddatblyiad cynhyrfus iawn.
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys gweithiau celf gwerthfawr gan gynnwys 40,000 o luniau a bron i filiwn o ffotograffau. Mae apwyntiad Christine, fel Artist Preswyl cyntaf y Llyfrgell, yn gyfraniad i draddodiad y Llyfrgell o hybu diddordeb a dealltwriaeth o'r celfyddydau ymysg pob rhan o'r gymdeithas," meddai Rhodri, Swyddog Addysg y Llyfrgell.
 |