Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1968 y cyrhaeddais i Ysbyty Bronglais, yn beryglus o agos i 29 Chwefror ac yn un o'r babis mwyaf a welodd y ward mamolaeth yno (tan i Marged fy nith gyrraedd 27 mlynedd yn ddiweddarach!). "Eliffant" oedd y term annwyl roddodd y nyrsys arna i gan mai'r cyfan oeddwn i yn ei wneud oedd cysgu a bwyta - fe ddywed rhai nad oes rhyw lawer wedi newid! Gan fyw yn Lôn Piercefield, Penparcau, ro'n i'n ddigon ffodus i gael tair mam - Mam, Mam-gu (mam Dad oedd yn byw gyda ni) a Gwenan fy chwaer fawr, sydd bum mlynedd yn hyn na fi ac yn or hoff mae'n debyg o nghario i o gwmpas ben i waered gan fy nal wrth un goes. Rwyf wedi profi sawl "bywyd" gwahanol yn Aberystwyth, disgybl ysgol ym Mhenweddig, myfyriwr drama yn y brifysgol a bellach yn drethdalwr, ac mae Aberystwyth yn dref sydd wedi 11 ddo i esblygu er mwyn cwrdd â gofynion pob un o'r bywydau hynny. Yn fy swydd bresennol rwy'n treulio bron banner fy amser yng Nghaerdydd ac ym aml yn gyff gwawd nifer o fy nghydweithwyr am fy mharodrwydd i bregethu bendithion byw mewn tref glan môr yng nghanolbarth Cymru. "How's the whelk man" yw sylw un cydweithiwr yn aml gan gyfeirio at greadigaethau'r nofelydd Malcolm Pryce. Cenfigen sydd tu cefn i'w sylwadau, wrth gwrs. Wrth dyfu lan yn y dref mae'n siŵr mod i'n sylweddoli, yn fy isymwybod, pa mor bwysig oedd y gymuned yn Aberystwyth i'm rhieni, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae Gwenan a finnau wedi sylweddoli beth yw gwir ystyr perthyn i gymuned a chael cefnogaeth y gymuned honno. Petawn i'n cael tri dymuniad i Aberystwyth dyma fyddwn i'n gobeithio amdano: Bod pawb yn gwneud yn fawr o fusnesau unigryw a lleol y dref a helpu i sicrhau nad yw Aberystwyth yn troi i fod yn gopi carbon o drefi eraill ar hyd ac ar led Cymru - byddai maes parcio addas yn gam i'r cyfeiriad cywir dybiwn i. Er mwyn lleihau fy amser yn y car, byddai'n braf gweld rheilffordd yn ailagor rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, er o gofio bod ein cartref bellach ar yr hen linell drên byddai'n bendant angen ffeindio llwybr newydd! Ac yn olaf gweld Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Cymru, gyda mwyafrif y chwaraewyr yn dod o Geredigion.
Ond efallai yn fwy na rhain i gyd, mai dymuno sicrhau parhad y gymuned gref sydd yma yn Aberystwyth - sydd yn medru bod yn gymaint o gefn ar adegau anodd - fyddwn i.
Hir oes i fy Aberystwyth i! Mwy o Aberystwyth
 |