"Mae'n anodd credu'r peth heddiw ... and pan oeddwn i tua deuddeg oed, roeddwn i'n casau Aberystwyth! Merch o Lanbrynmair ydwyf (er cael fy ngeni yn Ysbyty Bronglais), a nôl bryd hynny, yr unig resymau dros ddod i Aberystwyth oedd i drio arholiadau piano yn Yr Hen Goleg, neu i ymweld â ffrind neu berthynas oedd yn sâl yn yr ysbyty; nid profiadau pleserus i blentyn! Rwy'n cofio dod i lawr rhiw Penglais, a'm calon yn suddo i'm stumog wrth i mi weld y môr o'm blaen! Yr unig fwynhad yr oeddwn yn cael o'r tripiau hyn oedd cael mynd i'r siop fferins oedd yn arfer bod ar Ffordd y Môr, a chael pecyn o'bonbons'! Rwy'n falch i ddweud fod pethau'n wahanol iawn erbyn hyn, a bod gan Aberystwyth le pwysig iawn yn fy nghalon. Treuliais dair blynedd yn y Brifysgol yma yn astudio Cyfraith a Busnes, ac fe agorodd y tair blynedd yna (yn byw yn Neuadd Pantycelyn - profiad bythgofiadwy!) - fy llygaid i'r hyn sydd gan Aber i'w gynnig. .Rhai o'm hoff lefydd bryd hynny (a hyd heddiw) oedd y prom, Consti, Yr Hen Lew Du, yr Eidal Fach, a'r holl siopau bach diddorol sydd o gwmpas y dref. Wedi i mi raddio, a theithio o amgylch y byd, penderfynais mai Aber oedd y lle i mi ac ymgartrefais ym Menrheidol, lle rwyf yn byw hyd heddiw gyda'm gwr Deulwyn, a Mirain, ein merch. Roedd yr holl deithio dros y byd wedi gwneud i mi werthfawrogi cymuned glos, Gymreig Aberystwyth, rhywbeth sy'n braf cael ei flasu mewn digwyddiadau megis ymarferion Côr ABC, neu hyd yn oed wrth fynd a Mirain i Camau Bach ben bore! Erbyn hyn, rwy'n gweithio fel rheolwr gweinyddol I Gwmni Theatr Arad Goch, ac yn mwynhau gweithio yn Stryd y Baddon, mewn canolfan yng nghalon Aberystwyth. Ydi, mae Aberystwyth yn le arbennig iawn i mi, wedi'r cyfan, dyma lle'm ganed, lle es i'r Brifysgol, y lle y bu i mi gyfarfod a'm gŵr, a lle ganwyd ein merch! Diolch Aberystwyth!"
 |