Yn gyntaf, y mae ein llynges bysgota yn ehangu a dau gwch newydd, y ddau wediu peintio'n goch llachar, wed'u hangori yn erbyn cei y dref. Bechgyn lleol a ddysgodd eu crefft oddi ar arfordir Cernyw sydd piau'r ddau. Efallai fod rhai ohonoch yn cofio John Gorman yn was yr allor yn eglwys y Merthyron Cymreig ym Mhenparcau, ond mae amser yn symud yn ei flaen ac wedi iddo dreulio saith mlynedd yn gweithio ar gychod pysgota crancod o Gernyw, ef bellach yw perchennog Freedom, cwch cimychiaid 33 troedfedd a adeiladwyd yn Falmouth yn 1986 ac a restrwyd yn ddiweddar yn Tarbet ar arfordir gorllewinol yr Alban. Yn wir y mae cysylltiadau Celtaidd cryf i'r Freedom oherwydd bu gynt â pherchnogion yng Nghernyw, yr Alban ac Iwerddon! Y mae John yn gosod 600 o botiau cimwch a chrancod o fewn cylch o 15 militir i Aberystwyth. Yr ychwanegiad arall yw'r CaraSue, cwch 28 troedfedd a brynwyd gan y brodyr David a Martin Haigh. Y mae gan David flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio ar wahanol longau pysgota llusgrwyd oddi ar arfordir Ilfracombe. Y mae Martin yn llongwr gyda'r llynges fasnach ac fe fydd ef yn helpu pan ddaw adref ar wyliau. Adeiladwyd y CaraSue yn Looe yng Nghernyw yn 1992 a dyna lle y bu hyd yn ddiweddar. Y maer enw'n dod o gyfuniad o enwau gwraig a merch y cym-berchennog ac fei hailgofrestrwyd yn Aberystwyth yn AB1. Y mae David yn gosod rhwydi yn ogystal â photiau cimwch. Gosodir y rhwydi hyd at 8 milltir allan yn y bae i ddal y crancod corryn syn symud i ddwr mwy bas yn ystod y gwanwyn a'r haf. Mae'r cranc corryn yn medru tyfu hyd at 18 cm ar draws y gragen, ond os ychwanegwch hyd eu coesau gallant fesur dros lathen ar draws. Gosodwyd rhagor o rwydi yn nes i'r lan hefyd i ddal draenogiaid y môr (bass) blasus Bae Ceredigion. Yn ymyl y cei, ar hyn o bryd, yn cael ei hailwampio ar gyfer tymor pellach o wasanaeth, y maer Halcion. Mae Laurence Burke, ei pherchennog newydd, yn ei gwneud yn barod i redeg tripiau yn y bae, a thripiau pysgota i hyd at wyth o bobl, erbyn diwedd yr haf. Cafodd Laurence brofiad eang gyda John a Nick Hughes ar y cwch Keep Smiling a chan mai ef yw llywiwr y bad achub, bydd pawb a fydd yn teithio gydag ef yn berffaith ddiogel! William Troughton
 |