Yno roedd aelodau o'r Cyngor Sir, Maer y Dref, y Cynghorydd Sue Jones Davies, Mr Gareth Rowlands, Uchel Sirif Dyfed yngyd â Band y Gatrawd, cyn filwyr a chadetiaid lleol a gwahoddedigion eraill. Gwnaed y cyhoeddiad ffurfiol gan Bronwen Morgan, Prif Weithredwr y Cyngor ac yna cyflwynodd y Cynghorydd Odwyn Davies, Cadeirydd y Cyngor, Y Scrol i'r Brigadydd Iain Chambers CBE. Mynegodd y Brigadydd ei werthfawrogiad o'r anrhydedd ar ran y Gatrawd. Mae trosglwyddo rhyddfraint yn caniatau i'r Gatrawd ddod i'r Sir ar achlysuron seremoniol, "gyda chleddyfau wedi eu tynnu o'r waun, bidogau wedi eu gosod, eu seindorf yn chwarae, drymiau yn taro, a baneri yn chwifio." Yn dilyn y seremoni gorymdeithiodd y Gatrawd drwy strydoedd y dref gan gyflwyno'r Saliwt Cyffredinol wrth orymdeithio drwy Sgwar Owain Glyndŵr. Arweiniwyd yr orymdaith gan Siencyn yr Afr, mascot Catrawd y Cymry Brenhinol.
 |